ARA-DEG-2022_logo_WHITE

-Awst 25/26/27/28

GRUFF RHYS, BCUC, Adwaith, Sage Todz, This Is The Kit, Ryley Walker, Carwyn Ellis & Rio 18, Troupe Djéliguinet, Ffrancon, Snapped Ankles, La Perla, Cosmic Dog Fog + Mwy

ARA DEG
2022

Ymgolli ydi thema ein cyfres o gigs eleni. Gyda’r byd yn deffro’n raddol o drwmgwsg y pandemic a’r byd yn arbennig o greulon ar hyn o bryd, rhwng y cynni cyffredinol, y rhyfeloedd a newid hinsawdd, dyma gyfle prin i ymgolli mewn cerddoriaeth, a ffurfio cymunedau cerddorol newydd rhwng artistiaid o bell ac agos.

Mae pwyllgor argyfwng canolog yr wyl wedi rhoi rhaglen o nosweithiau at eu gilydd fydd yn gadael i bawb ymgolli mewn tonau o bedwar ban er mwyn dychmygu llwybrau newydd allan

o’r pydew cyfoes o ddigalondid.

Tocynnau penwythnos a dydd

-AWST 25/26/27/28-

FFORDD BANGOR, BETHESDA GWYNEDD, LL57 3AN

Ni chafwyd hyd i ddigwyddiad!

DYDD IAU

Neuadd Ogwen

9:30pm – BCUC
8:30pm – ADWAITH
7:30pm – SAGE TODZ

7pm – Drŵs
6pm Achrediad Cynnar

DYDD GWENER

Neuadd Ogwen

9:15pm – THIS IS THE KIT
7:45pm – RYLEY WALKER

7pm Drŵs

DYDD SADWRN

Neuadd Ogwen

9:30pm – CARWYN ELLIS & RIO 18
8:30pm – TROUPE DJÉLIGUINET
7:30pm – FFRANCON

7pm Drŵs

Capel Jerusalem

Prynhawn
4:30pm – GRUFF RHYS
3:30pm – AC ERAILL i’w gyhoeddi

3pm Drŵs

DYDD SUL

Neuadd Ogwen

9:30pm – SNAPPED ANKLES
8:30pm – LA PERLA
7:30pm – COSMIC DOG FOG

7pm Drŵs

DYDD IAU
AWST 25

NOSWAITH - NEUADD OGWEN

BCUC

Mae BCUC yn grwp rap gwleidyddol, ymfflamychol o Soweto, De Affrica. Maent yn gerddorol unigryw yn creu beats a bâs byw ffrwydrol! Ddim i’e methu.

Play Video

ADWAITH

Yn syth o lwyfanau Glastonbury mae’r anhygoel Adwaith yn teithio eu hail albwm Bato Mato ac yn dod a’u caneuon radical a pwerus i Fethesda am y tro cyntaf.

Play Video

Sage Todz

Mae Sage Todz y rapiwr drill o Benygroes wedi cael blwyddyn i’w gofio gyda llwyddiant ysgubol ei gân Rownd â Rownd yn arwain at recordio’r trac ‘O Hyd’ ar gyfer tîm peldroed Cymru.

Play Video

DYDD GWENER
AWST 26

NOSWAITH - NEUADD OGWEN

This Is The Kit

This Is The Kit – bydd band amryddawn Kate Stables yn chwarae eu caneuon cynes sy’n adnabyddus iawn i wrandawyr radio 6. Ma hi’n dod o gefndir gwerinol amgen ac yn chwarae’r banjo a gitar ond mae na rythmau heintys i’r caneuon sy’n gwneud synnwyr llwyr ar nôs Wener

Play Video

Ryley Walker

Mae’r gitarydd Ryley Walker yn hannu o linach arbrofol Chicago y nawdegau – Tortoise, Jim O’Rourke (ddim un Sir Benfro) ac ati – ond hefyd wedi bod yn plannu ei rych ei hyn o gerddoriaeth gitar amrwd, cosmic, americanaidd

– rown ni ddigon o amser er mwyn iddo (a ni) gael ymgolli yn ei gerddoriaeth

Play Video

DYDD SADWRN
AWST 27

PRYNHAWN - CAPEL JERUSALEM

Gruff Rhys

Bydd Gruff Rhys, ei grŵp, a gwesteion arbennig yn chwarae capel Jeriwsalem bnawn Sadwrn

Play Video

DYDD SADWRN
AWST 27

NOSWAITH - Neuadd Ogwen

Carwyn Ellis & RIO 18

Mae recordiau Carwyn Ellis gyda’r Rio 18 yn ryw fath o drioleg Berlin cyfoes – lle mae Ellis, fel Bowie gynt yn Berlin – yn archwilio posibiliadau cerddorol a chysyniadol y ddinas – Rio Du Janeiro yn yr achos yma – weithiau gan recordio yno a weithiau yn cael ei ddylwanadu o bell, bydd chydig o awyrgylch Rio, ac Ynys Môn, tarddle Carwyn ei hun yn y Neuadd ar y Nôs Sadwrn

Play Video

Troupe Djéliguinet

Mae’n wych medru cydweithio gyda Charnifal Trebiwt Caerdydd – sydd yr un penwythnos – er mwyn dod â Troupe Djeliguinet o Guinea i’r Neuadd.
Maen nhw’n cael eu harwain gan Fatoumata Kouyaté meistr o’r Balafon a griot, sy’n hanu o linach hir o feirdd cerddorol Mandingue – mae hi yn ei thro wedi trosglwyddo ei sgiliau aruthrol i’w phlant – gan gynnwys N’famady sydd wedi chwarae rhan Ara Deg ac wedi ymweld â Bethesda droeon. Edrychwn ymlaen at groesawu mwy o’r teulu Kouyaté i Fethesda.

Play Video

Ffrancon

Ffrancon – ers blynyddoedd lawer bellach mae Geraint Ffrancon o Goetmor, Bethesda wedi bod yn creu cerddoriaeth electroneg arbrofol a hollol unigryw. Mae ei albwm ddiweddaraf Gwalaxia yn pontio’r cyswllt cysyniadol rhwng Belleville- sef tarddle y mudiad Techno gwreiddiol ger Detroit a Machynlleth – prif ddinas y Cymry dan Owain Glyndwr.

Sylwodd Mr Ffrancon fod y ddwy dref wedi eu efeillio, a dyma blanu syniad gwyllt am albwm techno heriog yn ei ben. Mae ar gael rwan ar label Ankst Musik.

Play Video

DYDD SUL
AWST 28

NOSWAITH - Neuadd Ogwen

Snapped Ankles

Mae Snapped Ankles yn teithio eu halbwm diweddara Forest of Your Problems a ryddhawyd llynedd ar y label electroneg arbrofol Leaf. Mae nhw’n grwp byw gwbwl unigryw – yn hollol anhysbus mewn gwisgoedd coediog – mae o fel gwylio coedwig yn chwarae offerynau – ma nhw’n egniol fel Can ac yn Graf of fel The Fall ond noson wyllt er mwyn ymgolli a dawnsio fydd hon.

Play Video

La Perla

Mae’r grwp La Perla o Bogotá, Colombia yn driawd offerynau taro tanllyd, sy’n chwalu traddodiadau patriarchaidd y curiadau Colombiaidd.

Maent yn bwydo ar gelf drefol, olwynion cumbia, seicedelia, lysergy, graffiti, llawenydd ac anhrefn, yr anhrefn hwnnw sy’n gwneud ichi “aros i fyny drwy’r nôs, a hedfan fel brithyll’’ ac i ganu dros hawliau y rheiny sy’n cael eu cau allan o gymdeithas

Play Video

Cosmic Dog Fog

Mae Cosmic Dog Fog yn ddeuawd tanddaearol o Wrecsam sy’n gwneud beats a synnau electroneg amrwd a rhithiol er mwyn i’r gynulleidfa ymgolli’n llwyr. Fel Snapped Ankles ma nhw’n ymddangos mewn masgiau ag yn gwbl anhysbus.

Mae ganddynt ddilyniant brwd yn Nghlwyd a hon fydd eu gig cyntaf i anturiethwyr madarch Gwynedd.

Play Video

llety / Opsiynau Gwersylla

Yn bosibl gyda chefnogaeth gan…

ARA DEG 2022

Artistiaid

BCUC
ADWAITH
SAGE TODZ
THIS IS THE KIT
RYLEY WALKER
GRUFF RHYS
CARWYN ELLIS & RIO 18
TROUPE DJÉLIGUINET
FFRANCON
SNAPPED ANKLES
LA PERLA
COSMIC DOG FOG
+ MWY

Cysyniad

Cafodd Ara Deg ei greu gan Gruff Rhys a Neuadd Ogwen