Awst 22/23/24

Cerddoriaeth gan Gruff Rhys, Das Koolies, Group Listening, Bill Ryder-Jones, Strawberry Guy, Fflaps ac Ectogram, Pat Morgan ac Alan Holmes + mwy

Teyrnged i Emyr Glyn Williams

Roedd Emyr Glyn Williams (a sefydlodd Recordiau Ankst gyda Alun Llwyd a Gruff Jones) yn gefnogwr brwd o Ara Deg a Neuadd Ogwen. Bu’n dod a stondin ei label Ankst Musik i’n ffair recordiau, sy’n nodweddiadol o’i gefnogaeth ddi flino i ffilm a cherddoriaeth arbrofol yn Nghymru.

Mae’n golled fawr ar ei ol, felly hoffem dalu terngedau i Em drwy’r dydd Sadwrn, gyda gwesteion o ambell grwp y bu’n ganolog i’w hanes. Bydd Pat Morgan o Datblygu, Alan Homes ac Ann Mattews o Fflaps ac Ectogram a Dewi Evans o Rheinallt H Rowlands yn chwarae setiau amrywiol a bydd y noson yn cloi gyda perfformiad o’r Teimlad gyda Pat Morgan a Gruff Rhys a’r grwp.

Bu Emyr yn allweddol fel cenhadwr dros Datblygu drwy ryddhau sawl casgliad o’u gwaith ond roedd hefyd yn chwyrn ar sut oedd sentimentaliaeth yn dinistrio ein cymdeithas felly manylion isod.

Tocynnau penwythnos a dydd

-AWST 22/23/24-

FFORDD BANGOR, BETHESDA GWYNEDD, LL57 3AN

Ni chafwyd hyd i ddigwyddiad!

DYDD IAU

Neuadd Ogwen

DAS KOOLIES
GROUP LISTENING

7:00yh – Drws

DYDD GWENER

Neuadd Ogwen

BILL RYDER-JONES

7:00yh – Drws

DYDD SADWRN

Neuadd Ogwen

10:00 – Ffair recordiau, llyfrau, dillad a brecwast
11:00 – PANDORA’S BOX ffilm gyda trac sain byw gan PAT MORGAN ALAN HOLMES

Y FIC

5:00 – DJ DON LEISURE

Capel Jerusalem

3:00 – 7:00 STRAWBERRY GUY + cefnogaeth

NEUADD OGWEN

7:00 – GRUFF RHYS
FFLAPOGRAM
MERCHED LLOERIG
DJ DON LEISURE
DJ ANDY VOTEL

DYDD IAU
22 AWST

NEUADD OGWEN

Das Koolies

Bydd yr Anifeiliaid Blewog; Cian, Bunf, Guto a Daf yn dod a sioe anhygoel Das Koolies i Neuadd Ogwen. Yn cyfuno Tecno, offerynau byw a delweddau fideo mentrus – bydd hon yn noson fythgofiadwy.

Dewch am chwalfa wefreiddiol gyda Das Koolies.

7yh

Play Video

Group Listening

Mae Group Listening yn cynnwys Stephen Black (Sweet Baboo) sy’n wreiddiol o Dregarth a Paul Jones o Benclawdd. Ffurfiodd y ddeuawd yn Nghaerdydd fel ‘covers band’ avant- Garde yn creu fersiynau o ddarnau haneithiol gan artistiaid Ambient fel Brian Eno ac Arthur Russell.

Ar eu albwm newydd Walks (PRAH recordings) bu’r ddau yn cyfansoddi darnau gwreiddiol ar gyfer piano a clarinet ond yn dod a dylwanwadau annisgwyl synthetic newydd i’r nyth.

Play Video

DYDD GWENER
23 AWST

NEUADD OGWEN

Bill Ryder-Jones

Bellach ar ei 5ed albwm daw Bill Ryder-Jones a’i grwp i Gymru i chwarae ei ddiweddara: Iechyd Da! Teitl sy’n cyfeirio heb os at un o’i hoff grwpiau, Gorky’s Zygotic Mynci. Dyma ail ymweliad Bill ac Ara Deg wedi iddo chwarae’r gyfres gyntaf yn 2019.

7yh

DYDD SADWRN
24 AWST

Dydd Teyrnged i Emyr Glyn Williams

Ffair Recordiau

Mae ffair recordiau Ara Deg yn dychwelyd i gyntedd Neuadd Ogwen o 10yb, lle gewch gyfle i ddarganfod eitemau gwych!

Ffilm

Pandora's Box (1929)

Gyda trac sain byw gan

Merched Lloerig

Mae Pat Morgan ac Alan Holmes wedi bod yn ffrindiau ers degawdau, ond dyma’r tro cyntaf iddyn nhw berfformio gyda’i gilydd. Trodd Alan at gerddoriaeth Gymraeg am y tro cyntaf pan glywodd y ddau gasgliad ar Recordiau Anhrefn ganol yr 80au. Yn enwedig caneuon Datblygu.

Cysylltodd Pat o Datblygu ag Alan yn ddiweddar i awgrymu recordio sesiwn Radio Cymru, a chytunodd wrth gwrs. Roedd gan y ddau hanes o gydweithio, felly fe wnaethon nhw awgrymu gweithio ar drac sain ffilm yn deyrnged i Emyr, a fyddai’n aml â thrac sain byw i’r ffilmiau mud y byffai’n rhaglenu yn Pontio ym Mangor. Awgrymodd Pat glasur P W Pabst o 1929, “Pandora’s Box”, gyda Louise Brooks yn serennu, a oedd hefyd yn digwydd bod yn un o hoff ffilmiau Alan. Bydd y ddeuawd yn creu trac sain y ffilm yn y prynhawn, ac yn chwarae ychydig o ganeuon gyda’r nos (fel Merched Lloerig).

Bydd y ddeuawd yn creu trac sain y ffilm yn y prynhawn, ac yn chwarae ychydig o ganeuon gyda’r nos (fel Merched Lloerig).

tua 11am

DJ

Don Leisure

Braint cael ymweliad arall ag Ara Deg gan Don Leisure – y cynhyrchydd o Aberdar.

Bydd yn cyflwyno set unigol yn y Fic ac hefyd yn cydweithio ag Andy Votel i gloi Nos Sadwrn.

Edrychwn ymlaen yn eiddgar at ei gasgliad o ddanteithion o archif recordiau sain fydd yn cael ei ryddhau yn y misoedd nesaf.

.

.

Prynhawn SADWRN

NEUADD OGWEN

Capel Jerusalem

Strawberry Guy

& Cefnogaeth

Diolch aruthrol i Alex Stephens y cerddor amryddawn am grybwyll fod Strawberry Guy yn artist lleol ac awgrymu ein bod yn dod a fo i Ara Deg.

Mi fasa’n wirion bost peidio cynnig llwyfan iddo – a daw a set solo arbennig i gapel Jeriwsalem ar bnawn dydd Sadwrn.

3yp – 7yh yn Capel Jerusalem

Nodwch fod angen tocyn Prynhawn Sadwrn neu docyn Dydd Sadwrn Cyfan ar gyfer y perfformiad hwn.

Nos SADWRN

NEUADD OGWEN

Gruff Rhys

Bydd Gruff Rhys (gyda Kliph Scurlock, Osian Gwynedd, Huw V Williams a Gruff Ab Arwel
yn chwarae set sy’n cynnwys caneuon o’r recordd hir ddiweddaraf Sadness Sets Me Free.

Bu Emyr yn allweddol yn hybu a magu hyder cerddorol Ffa Coffi Pawb a Super Furry
Animals cynnar fel rhan o recordiau Ankst.

7yh

Fflapogram

(Fflaps & Ectogram)

Mae Fflapogram yn driawd sy’n cynnwys Ann Matthews (llais a gitâr), Alan Holmes (gitâr) a Dewi Evans (allweddellau). Maen nhw’n perfformio deunydd o’u grwpiau blaenorol Fflaps, Ectogram a Rheinallt H Rowlands, er mewn ffurf wahanol iawn, yn bennaf oherwydd eu diffyg drymiwr.

Mae’r triawd yn gyfeillion ers 43 mlynedd, ers cyfarfod ar yr un pryd yn 1981 yn awyrgylch creadigol ffrwythlon Coleg Celf Bangor, pan anfonwyd y tri i ystafell yn nhŵr yr adeilad i dynnu llun yr hyn a welsant yno. Darganfu’r tri eu bod yn rhannu cariad at gerddoriaeth a daethant at ei gilydd i recordio rhai o ganeuon Dewi o dan ei lysenw ‘Casio Kid’. Aeth Ann ac Alan ymlaen wedyn i ffurfio Fflaps ac yn ddiweddarach Ectogram, a byddai Dewi yn westai achlysurol, cyn iddo canolbwyntio ar recordio a pherfformio gyda’r diweddar Owain ‘Oz’ Wright fel Rheinallt H Rowlands.

Mae’r tri wedi aros yn ffrindiau agos. Mae marwolaeth ddiweddar Emyr Glyn Williams, a fu’n gymorth mawr ac yn ysbrydoliaeth i bawb ar y sîn Gymraeg, wedi eu sparduno i berfformio nifer o’r caneuon a ryddhaodd Em ar ei labeli recordio Ankst, Atol ac Ankstmusik … nid mewn ffordd dryw i’r gwreiddiol, gan y byddai wedi casáu hynny, ond i’w hail-greu gydag ysbrydion Jonny Evans, Maeyc Hewitt ac Oz Wright.

DJ

Andy Votel

Mae Andy yn un o’r DJ’s feinyl mwyaf blaenllaw yn fyd-eang ac yn awdurdod ar hen recordiau mewn sawl iaith yn ogystal a’r Gymraeg wrth gwrs gyda’i gasgliadau Welsh Rare Beat yn ymddangos ar ei label Finder’s Keepers. .

. .

Bydd yn dod a cysyniad ei noswaith B Music i Ara Deg – mathau o gerddoriaeth oedd yn cael eu gwrthod gan y brif ffrwd am ddegawdau yn cael eu trawsnewid au ail ddandansoddi i ganrif newydd. Bydd dawnsio gwyllt yn ddi-os. Hon fydd y set sy’n cloi Ara Deg.

Llety a Theithio

Neuadd Ogwen, High St, Bethesda, Bangor LL57 3AN

Tacsis

Tacsi Twix 01248 730123

Tacsi Pasty (+44) 07964 162248

Ceir A1 01248 602111

Gwersylla

Dinas Farm Site

Pen Isa’r Allt Halfway Bridge, Bangor LL57 4NB

01248 364227