Medi 12/13

Wolfgang Flür, kate NV, Tristwch y Fenywod, Rhodri Davies, Gruff Rhys, Pete Duggal, ACCÜ, Fiona & Gorwel Owen, Tai Haf Heb Drigolyn, The Tubs, Gulp, Ichi + mwy

Ara Deg yn dychwelyd yn 2025

Bydd ARA DEG 2025 yn digwydd rhwng dydd Gwener 12fed a dydd Sadwrn 13eg o Fedi.

Cyngerdd nôs ar y dydd Gwener, a diwrnod llawn o ddigwyddiadau wedi eu rhaglennu gyfer y dydd Sadwrn.

Eisoes wedi cadarnhau i berfformio…

Nos Wener: The Tubs, Gulp, Ichi

Dydd Sadwrn: Wolfgang Flür (ex Kraftwerk), Kate NV, Tristwch y Fenywod, Rhodri Davies, Gruff Rhys, Pete Duggal, ACCÜ, Fiona & Gorwel Owen, Tai Haf Heb Drigolyn

Manylion artistiaid, amseroedd perfformiadau a lleoliadau a mwy o weithgaredd i ddilyn.

DYDD GWENER

Neuadd Ogwen

BILL RYDER-JONES

7:00yh – Drws

NOS SADWRN

Neuadd Ogwen

10:00 – Ffair recordiau, llyfrau, dillad a brecwast
11:00 – PANDORA’S BOX ffilm gyda trac sain byw gan PAT MORGAN ALAN HOLMES

Y FIC

5:00 – DJ DON LEISURE

Capel Jerusalem

3:00 – 7:00 STRAWBERRY GUY + cefnogaeth

NEUADD OGWEN

7:00 – GRUFF RHYS
FFLAPOGRAM
MERCHED LLOERIG
DJ DON LEISURE
DJ ANDY VOTEL

nos wener
12fed MEDI

NEUADD OGWEN

dydd sadwrn
13eg MEDI

NEUADD OGWEN

gruff rhys

Mae Gruff Rhys yn sgwennwr caneuon ac artist recordio sy’n teithio’n rhyngwladol bellach, fe’i magwyd ym Methesda ond mae wedi ei leoli yn yn Nghaerdydd ers degawdau bellach. Mae’n gweithio dros sawl cyfrwng, ond caneuon ydi’r bara menyn ac mae rhai canoedd ohonynt yn ymddangos dros 26 record hir.
Gyda’u melodïau bendigedig, mae ei recordiau unigol yn cynnwys geiriau a cynhyrchu chwareus. Roedd ei albwm cyntaf, YrAtal Genhedlaeth yn 2005, yn ymhyfrydu yn nghorneli crafog y Gymraeg; dilynodd Candylion a Hotel Shampoo yn fuan, dwy albwm pop arbrofol o fri rhyngwladol.
Mae Gruff Rhys wedi bod yn rhyddhau recordiau ers 1988 gyda’i fand cyntaf Ffa Coffi Pawb cyn dod yn adnabyddus fel prif leisydd Super Furry Animals – band sydd wedi gallu cyflawni’r cymysgedd prin hwnnw – antur artistig gydag ymroddiad poblogaidd – gan gyfuno roc ‘fuzz’, harmonïau pur ac electroneg arloesol.
Fe hefyd lwyddodd i ddod o hyd i amser i ffurfio deuawd ‘synth-pop’ gyda’r cynhyrchydd Boom Bip, Neon Neon, gan ddogfennu bywydau’r gwneuthurwr ceir anwadal John DeLorean a’r ymgyrchydd a chyhoeddwr Eidalaidd Giangiacomo Feltrinelli dros ddau albwm bywgraffyddol ar gyfer recordiau Lex.
Rhwng ei recordiadau hir ei hun, mae Gruff wedi cydweithio â llu o artistiaid eraill, gan gynnwys Gorillaz, Africa Express, Mogwai, Sparklehorse, Danger Mouse, Sabrina Salerno ac Imarhan. Yn ogystal, mae wedi awduro dau lyfr, nifer o draciau sain sinema a gemau fideo, opera, creu cerddoriaeth ar gyfer pedwarawd o ddramau llwyfan a dyfeisio dwy ffilm ddogfen nodwedd.

Yn 2025 disgwyliwn ei albwm Cymraeg ddiweddaraf Dim Probs.

Ffair Recordiau

Mae ffair recordiau Ara Deg yn dychwelyd i gyntedd Neuadd Ogwen o 10yb, lle gewch gyfle i ddarganfod eitemau gwych!

Llety a Theithio

Neuadd Ogwen, Ffordd Bangor, Bethesda, Bangor LL57 3AN

Tacsis

Tacsi Twix 01248 730123

Tacsi Pasty (+44) 07964 162248

Ceir A1 01248 602111

Gwersylla

Dinas Farm Site

Pen Isa’r Allt Pont Halfway, Bangor LL57 4NB

01248 364227