Mehefin 1/2/3 2023

Penwythnos o gerddoriaeth wefreiddiol o ar draws Affrica gyda dawns, perfformiadau Affro-Gymraeg, gweithdai, arddangosfa celf/ffotograffiaeth a llawer mwy! Gwir ddathliad o Affrica yng Nghymru!

Dathlu Affrica yng Nghymru

Mae Dathliad Cymru Affrica yn yn gyfle i brofi celf pan-Affricanaidd. Bydd y penwythnos yn ddathliad o gyfoeth amrywiaeth yng Nghymru, yn benodol diwylliant a chelfyddydau Affricanaidd. Mae gennym artistiaid gwadd o Affrica (Mali, De Affrica, Sudan a Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo), ynghyd ag artistiaid Affricanaidd sydd wedi eu lleoli yng Nghymru ac ar draws y DU.

Cyflwynwyd i chi gan The Successors of the Mandingue, Neuadd Ogwen, Butetown Arts & Culture Association (BACA) a Rahim El Habachi.

Tocynnau penwythnos a dydd

-Mehefin 1/2/3-

FFORDD BANGOR, BETHESDA GWYNEDD, LL57 3AN

Ni chafwyd hyd i ddigwyddiad!

Dydd Iau

7:30yh – THE SUCCESSORS OF THE MANDINGUE ALL STARS & EVE GOODMAN
8:15yh – AFRO CLUSTER
9:30yh – BCUC

7:00yh – Drws

Dydd Gwener

7:30yh – DAFYDD IWAN & ALI GOOLYAD
8:15yh – HANISHA SOLOMON
9:30yh – BASSEKOU KOUYATE & NGONI BA

7:00yh – Drws

Dydd Sadwrn

5:00yp – AGMAR BAND
7:00yh – RASHA
8:15yh – SUNTOU SUSSO & BINTA SUSSO
9:30yh – KANDA BONGO MAN

4:30yp – Drws

DYDD IAU
Mehefin 1af

NOSWAITH - NEUADD OGWEN

THE SUCCESSORS OF THE MANDINGUE ALL STARS

gyda Eve Goodman

Bydd The Successors of the Mandingue yn cyflwyno band saith aelod trawiadol. Maent yn hyrwyddwyr y diwylliant Mandinka, ac mae pob artist yn seren yn ei rhinwedd ei hun, wedi’i drochi yn nhraddodiad barddol griot (neu djeli) Gorllewin Affrica o warchod straeon a hanesion eu pobl trwy gerddoriaeth, dawns, a chân. Yn hanu o Gini, Senegal, Y Gambia, Cote d’Ivoire, a Burkina Faso, mae eu arddull cerddorol wedi’u gwreiddio yn yr un traddodiadau hynafol a oedd yn ymestyn dros yr hen Ymerodraeth Mandingue.

Ar gyfer Dathliad Cymru Affrica, mae cydweithrediad arbennig wedi’i gomisiynu rhwng N’famady Kouyaté (Cyfarwyddwr Artistig The Successors of the Mandingue) ac Eve Goodman i ddod â thraddodiadau gwerin Gorllewin Affrica a Chymru ynghyd mewn un darn, gan ddathlu traddodiadau diwylliannol hynafol ac ieithoedd eu gwledydd o darddiad. Bu i N’famady ac Eve cyfarfod am y tro cyntaf pan gynrychiolodd y ddau Gymru yn Celtic Connections 2022 ac rydym yn gyffrous i glywed y gwaith y maent wedi bod yn ei greu.

7:30 – 8:00 01/06/23

Play Video
Play Video

Afro Cluster

Cydweithfa a aned yng Nghaerdydd yw Afro Cluster a ysbrydolwyd gan etifeddiaeth ffync/Afrobeat Gorllewin Affrica a Hip-Hop oes aur.

Ar draws eu perfformiad fe glywch rythmau cryfion a chytganau jazzaidd wedi’u haddurno gan eiriau ysgogol wedi’u ysgrifennu a’u ganu gan emcee Skunkadelic.

8:15 – 9:15 01/06/23

Play Video

BCUC

BCUC: Bantu Continua Uhuru Consciousness. Ffync cynhenid, hip hop gydag ymwybyddiaeth, ac egni pync-roc o Soweto, De Affrica.

Mae’r band saith-aelod wedi bod yn swyno cynulleidfaoedd yn lleol ac yn fyd-eang gyda’i berfformiadau ffync cynhenid ​​ac egni uchel sydd wedi eu gwneud yn un o allforion cerddorol mwyaf llwyddiannus De Affrica.

9:30 – 10:45 01/06/23

Play Video

DYDD GWENER
2il Mehefin

NOSWAITH - NEUADD OGWEN

Comisiwn yr Ŵyl

Dafydd Iwan & Ali Goolyad

Mae Dafydd Iwan yn ganwr gwerin a gwleidydd o fri sy’n wreiddiol o Frynaman, Sir Gaerfyrddin, sydd bellach yn byw ger Caernarfon. Derbyniodd radd er anrhydedd gan Brifysgol Cymru am ei gyfraniad i Gymru a’r Gymraeg, mae’n ganwr-gyfansoddwr sydd wedi cyhoeddi nifer helaeth o recordiau, ac awdur sawl llyfr. Ei gân “Yma o Hyd” oedd anthem swyddogol tîm pêl-droed Cymru yng Nghwpan y Byd yn Qatar.

Mae Ali Goolyad yn fardd, actor ac actifydd cymunedol. Wedi’i eni yn Hargeisa, Somaliland, ymfudodd Ali i Gymru yn 1 oed. Mae ei waith blaenorol yn cynnwys ysgrifennu a pherfformio yn De Gabay, (Theatr Genedlaethol Cymru), Border Game, Storm 2, Big Democracy Project (Theatr Genedlaethol Cymru), Borderland (Radio 4), Talking Doorsteps (Roundhouse), Mattan Injustice of a Hanged Man (BBC), a Black and Welsh (BBC Wales). Mae Ali mwynhau cydweithio gydag eraill ac y caru’r fersiwn o ddiwylliant Cymreig y mae’n ei greu.

Fe gyfarfodd Ali a Dafydd ar hap yng nghanol Caerdydd yn y cyfnod cyn Cwpan y Byd. Y cysylltiad â geiriau ‘Yma o Hyd’ a daniodd ddiddordeb yn y potensial ar gyfer cydweithrediad cerddorol/llafar rhwng y ddau Gymro balch gwahanol iawn yma.

7:30 – 8:00   02/06/23

Play Video
Play Video

Hanisha Solomon

Mae Hanisha Solomon yn gantores Ethiopiaidd sy’n byw yn Llundain.

Mae hi’n dalent anhygoel, yn canu mewn Amhareg, Oromiffa ac Arabeg. Mae ei cherddoriaeth yn cynrychioli synau hardd a phwerus Ethiopia a thu hwnt. Mae ei caneuon yn cynnwys caneuon am anghyfiawnder, dynoliaeth a’r angen am undod.

8:15 – 9:15 02/06/23

Play Video

Bassekou Kouyate & Ngoni Ba

Mae Bassekou Kouyate, o Mali, yn un o feistri’r ngoni, offeryn, liwt draddodiadol hynafol sy’n cael ei chwarae ledled Gorllewin Affrica, ac mae o’n cael ei barchu fel un o brif artistiaid byd-eang Affrica.

Mae ei fand, Ngoni Ba yn cynnwys chwaraewyr ngoni, offerynwyr taro a’r gantores ffantastig Amy Sacko. Gyda’i gilydd mae’n nhw wedi chwyldroi swn y ngoni, ac wedi gwthio canrifoedd o draddodiadau griot yn radical i’r dyfodol.

9:30 – 11:00 02/06/23

Play Video

DYDD SADWRN
3ydd Mehefin

Prynhawn - Neuadd Ogwen

Agmar band

Syniad y cerddor Hassan Nainia sy’n hanu o ranbarth Sous yn ne Moroco yw Agmar Band. Maen nhw’n chwarae fusion o gerddoriaeth Gogledd Affricanaidd traddodiadol, yn bennaf Amazigh (Berber), gan ddefnyddio’r offeryn Amazigh traddodiadol y Loutar a banjo.

Ar ôl gyrfa yn ymestyn dros ddegawdau ym Moroco, mae Hassan bellach wedi’i adnabod yn y DU am gydweithio ar albwm 2018 Jah Wobble & MoMo Project-Maghrebi Jazz a perfformio gyda’r chwaraewr kora Senegalaidd Diabel Cissokho.

5:00 – 6:00 03/06/23

Play Video

Rasha

Mae Rasha yn gantores, cerddor a chyfansoddwr caneuon hynod ddawnus o Swdan sydd wedi bod â phresenoldeb byd-eang yn y sin gerddoriaeth ryngwladol ers dros 30 mlynedd.

Mae arddull gerddorol Rasha yn gyfuniad hynod ddiddorol o arddulliau gan gynnwys traddodiadau cerddorol canrifoedd oed y diwylliant Nubian, rhythmau canolbarth y Swdan, curiadau tom-tom y Sahel Affricanaidd, adleisiau a dylanwadau synau Gogledd Affrica, synau Arabeg ac Andalusaidd (flamenco), blues modern, jazz a reggae.

Trwy ei gyrfa mae Rasha wedi cydweithio â Youssou N’Dour, K’naan, Geoffrey Oryema a nifer arall.

7:00 – 8:00 03/06/23

Play Video

Suntou Susso

gyda Binta Susso

Mae Susso yn aml-offerynnwr: chwaraewr Kora, offerynnwr taro, canwr a chyfansoddwr o’r Gambia.

Wedi’i eni i fewn i’r traddodiad Griot 700-mlwydd-oed, mae Suntou yn perfformio’i rôl fel haneswr, storïwr, ac yn uno pobl trwy gân. Liwt-telyn 22 tant yw’r kora, offeryn prin a hudolus. Mae cerddoriaeth Suntou Susso yn dod â naws dda ac yn cyfuno sain gyfoethog a thraddodiadol ei ddiwylliant Mandinka Gorllewin-Affricanaidd ag Affro-funk a soul.

Gyda’r gantores wadd arbennig o Gaerdydd, Binta Susso.

8:15 – 9:15 03/06/23

Play Video

Kanda Bongo Man

Wedi’i adnabod fel “The King of Soukous”, roedd y seren Congolese Kanda Bongo Man yn un o’r artistiaid cynharaf i gyflwyno’r gerddoriaeth hon yn rhyngwladol. Mae’n fwyaf enwog am ei unawdau gitâr hudolus a roddodd enedigaeth i’r ddawns enwog Kwasa Kwasa, a hyrwyddwyd gan John Peel ac Andy Kershaw ar ddiwedd yr 80au!

Mae cerddoriaeth Kanda wedi cael ei yrru gan optimistiaeth a hapusrwydd. Mae ei berfformiadau gwefreiddiol yn gyffrous ac yn egnïol ond eto wedi’u gwreiddio’n ddwfn yn y traddodiad Congo. Gyda’i fand saith-darn anhygoel y tu ôl iddo, peidiwch â cholli’r cyfle i brofi cerddoriaeth a dawns lawen ganolbarth Affrica Kanda Bongo Man.

9:30 – 11:00 03/06/23

Play Video

Digwyddiadau Arall

1,2,3 Mehefin

Gweithdai dydd Gwener

Djembe, Djembe, Djembe!

Bydd drymwyr meistr o Orllewin Affrica o The Successors of the Mandingue All Stars, pob un yn feistri ar eu crefft, yn arwain y pedair sesiwn 30 munud hyn. Bydd y hywryddwyr hyn o ddiwylliant Mandinka dilys yn rhannu eu treftadaeth trwy sesiwn lawen a fydd yn gwneud i bawb symud.

Cewch eich dal ar daith i Orllewin Affrica ac yn ôl – rydym yn addo y byddwch yn gadael yn gwenu!

Mae angen tocynnau ar wahân gan Eventbrite ar gyfer y gweithdai hyn, gyda gostyngiad os oes gennych docyn gŵyl neu os ydych chi’n dod â’ch djembe eich hun Croeso i gerdded i mewn! Croeso i gerdded i mewn!

02/06/23

Pedair sesiwn 30-munud

10:00 – 10:30

10:30 – 11:00

11:00 – 11:30

11:30 – 12:00

Gweithdy dydd Gwener

Dawns Gorllewin Affrica

gyda drymio byw

Bydd dawnswyr meistr o Orllewin Affrica o The Successors of the Mandingue All Stars yn hwyluso’r sesiwn hon i gyfeiliant rhythmau byw dan arweiniad Oumar Almamy Camara.

Mae Camara yn brif ddawnsiwr o Gini, Gorllewin Affrica. Bellach yn byw ym Mryste, mae gan Almamy CV trawiadol fel coreograffydd ac offerynnwr taro, gyda rolau blaenorol fel Cyfarwyddwr Artistig Ballet Bougarabou yn Senegal, a Chyfarwyddwr Dawns ar gyfer Circus Boabab yn Guinea. Yn y DU sefydlodd Almamy yr ŵyl gerddoriaeth a dawns Mandenkan Bora yn Bournemouth.

Mae angen tocyn ar wahân gan Eventbrite ar gyfer y gweithdy hwn, gyda gostyngiad os oes gennych docyn gŵyl. Croeso i gerdded i mewn! Croeso i gerdded i mewn!

02/06/23

12:15 – 13:30

Gweithy dydd Sadwrn

Dawns Ethiopiaidd

gyda Adi Detemo

Ymunwch ag Adi Detemo am weithdy dawns egniol o Ethiopia!

Nodweddir dawns Ethiopia gan ei steil egnïol a bywiog, sy’n cynnwys symudiadau llaw, ysgwydd a thraed, symudiadau corff hylifol a mynegiannol, a churiadau rhythmig. Mae’r dawnsiau yn aml yn adrodd straeon, yn dathlu traddodiadau diwylliannol, neu’n mynegi emosiynau.

Mae dawnsiau traddodiadol Ethiopia yn cynnwys yr Eskesta, dawns gyflym sy’n cynnwys symudiadau llaw ac ysgwydd bywiog a churiadau cryf a’r ddawns Gurage, dawns ar gyfer grŵp, sy’n cynnwys symudiadau cydamserol a gwaith troed cywrain.

Mae angen tocyn ar wahân gan Eventbrite ar gyfer y gweithdy hwn, gyda gostyngiad os oes gennych docyn gŵyl. Croeso i gerdded i mewn! Croeso i gerdded i mewn!

03/06/23

10:00 – 11:00

Gigs byw

Yn y Fic

Perfformiadau gyda’r nos am ddim yn y dafarn drws nesaf

Blank Face

6:00 Nos Wener

Cynfas cerddorol yw Joshua Whyte sy’n cyfuno gwahanol synau fel ei baent a’i frwsh i greu llun hardd.

Adjua

6:00 Nos Sadwrn

Wedi’i eni yn Splott i rieni o Ghana a Chymru, mae Adjua yn ddod â gerddoriaeth alt-RnB gyda blas acwstig!

Rhwng y Profion Sain

Cyfweliadau byw gyda rhai o’r artistiaid wedi’i gynnal gan yr actor, dramodydd a dawnsiwr bol Rahim El Habachi yn tafarn y Fic

Dydd Iau

4:30 BCUC

Dydd Sadwrn

2:00 Dawnswyr Cymdeithas Affrica Gogledd Cymru

4:20 Suntou Susso

Dangosiadau Ffilm

Yn y Fic

Dydd Iau

6:30 Dawns Krystal Lowe ac Aida Diop

Dydd Gwener

5:00 Dawns Krystal Lowe ac Aida Diop

Dydd Sadwrn

1:30 Balafon Origins

2:30 Dò Farala A Kan

(Gyda chyflwyniad fideo gan y cyfarwyddwr Lucy Duran)

Dathliad Cymru Affrica 2023

Artistiaid

The Successors of the Mandingue
Eve Goodman
Afro Cluster
BCUC
Dafydd Iwan
Ali Goolyad
Hanisha Solomon
Bassekou Kouyate & Ngoni Ba
Agmar Band
Rasha
Suntou Susso
Binta Susso
Kanda Bongo Man
+ MWY

Cysyniad

Cyflwynwyd i chi gan The Successors of the Mandingue, Neuadd Ogwen, Butetown Arts & Culture Association (BACA) a Rahim El Habachi.