ADWAITH
Yn hanu o Caerfyrddin, tyfodd Adwaith wedi’i amgylchynu gan draddodiad cyfoethog o indie-roc Cymraeg, a sîn glos o fandiau a fynychai eu hoff leoliad lleol, The Parrot. Wedi’u hysbrydoli gan fandiau arbrofol Cymru yn yr 80au – Datblygu, Traddodiad Ofnus a Fflaps i enwi tri grŵp oedd yn arwain cerddoriaeth roc Cymraeg ar don newydd ar y pryd – mae Adwaith yn gwybod eu bod am fod yr un mor ddigyfaddawd yn eu gweledigaeth eu hunain.
Nawr, mae’r triawd deinamig Adwaith yn falch o gyhoeddi eu bod wedi rhyddhau eu trydydd albwm, Solas, y bu disgwyl mawr amdano. Mae Solas yn nodi carreg filltir arwyddocaol yn nhaith y band. Wedi’i recordio ar draws lleoliadau amrywiol—gan gynnwys Ynysoedd yn yr Alban, Lisbon ym Mhortiwgal, a stiwdios yng Nghymru—mae Solas yn adlewyrchu twf ac esblygiad Adwaith fel artistiaid. Mae’r albwm dwbl 23-trac hwn yn cwblhau trawsnewidiad o fod yn eu harddegau yn ferched grymus, gan archwilio themâu hunan-ddarganfyddiad, dihangfa, a gwytnwch.
pris
- £13.25
Dyddiad
- Chwef 08 2025
Amser
- 7:30 pm