ANDY KERSHAW @ Neuadd y Farchnad, Caernarfon

ANDY KERSHAW

Gyda DJ Fflyffilyfbybl & Martin 9Bach

Mae’r DJ chwedlonol Andy Kershaw yn dod i Gaernarfon i lansio noson gerdd byd  fisol newydd o’r enw GLOBALHEADS yn y Neuadd Farchnad. Bydd yn neidio i mewn i’w gasgliad enwog ar gyfer cerddoriaeth ddawns tanboeth o Affrica, y Caribî, ac America Ladin – o Soukous i Salsa, Roots Reggae i Rai, Soca i Township Jive o Dde Affrica. A phob pwynt arall yn y canol.

Yn frwd dros gerddoriaeth, mae Andy Kershaw yn ddyn sydd â chwilfrydedd obsesiynol am y byd. Mae wedi ennill mwy o wobrau Sony Radio nag unrhyw ddarlledwr arall. Yn ei ugeiniau cynnar rhannodd swyddfa anhrefnus gyda John Peel a chyflwynodd The Whistle Test a Live Aid i’r BBC.

Yn anturiaethwr di-ofn, mae wedi ymweld â 97 o wledydd ac, fel gohebydd rhyfel roc a rôl ar gyfer Radio 4 a’r papurau bras‐ mae wedi gohebu o rai o lefydd mwyaf peryglus y byd gan gynnwys Irac, Sierra Leone, Malawi (lle cafodd ei wahardd o’r gwlad gan yr unben Hastings Banda!), Angola, Rwanda (lle llwyddodd i osgoi marwolaeth o drwch blewyn!), Haiti a Gogledd Corea (lle gwnaeth y rhaglen ddogfen deithio gyntaf yng Ngogledd Corea yn y byd!).

Mae ei bodlediad “ANDY KERSHAW PLAYS SOME BLOODY GREAT RECORDS” yn parhau â’i “rhyfel un dyn yn erbyn cyffredinedd cerddorol” hunangyhoeddedig a gellir ei garaedd trwy wefan Andy – www.andykershaw.co.uk

Caernarfon- mae Andy Kershaw yn dod!

“Y darlledwr Prydeinig gorau heb ei eithrad. Newyddiadurwr darlledu go iawn, cyflawnwr go iawn, rhywun go iawn, dyn anhygoel”

STEPHEN FRY

pris

£12.00

Dyddiad

Chwef 24 2023
Expired!

Amser

7:30 pm

Organizer

Globalheads