ARA DEG 2024(NOS SADWRN): GRUFF RHYS, FFLAPOGRAM, PAT MORGAN ALAN HOLMES + DJ
Gig nos yn Neuadd Ogwen yn unig.
GRUFF RHYS
Bydd Gruff Rhys (gyda Kliph Scurlock, Osian Gwynedd, Huw V Williams a Gruff Ab Arwel
yn chwarae set sy’n cynnwys caneuon o’r recordd hir ddiweddaraf Sadness Sets Me Free.
FFLAPOGRAM
Mae Fflapogram yn driawd sy’n cynnwys Ann Matthews (llais a gitâr), Alan Holmes (gitâr) a Dewi Evans (allweddellau). Maen nhw’n perfformio deunydd o’u grwpiau blaenorol Fflaps, Ectogram a Rheinallt H Rowlands, er mewn ffurf wahanol iawn, yn bennaf oherwydd eu diffyg drymiwr.
PAT MORGAN ALAN HOLMES
Mae Pat Morgan ac Alan Holmes wedi bod yn ffrindiau ers degawdau, ond dyma’r tro cyntaf iddyn nhw berfformio gyda’i gilydd. Bydd y ddeuawd yn chwarae ychydig o ganeuon gyda’r nos (fel Merched Lloerig).
DJ ANDY VOTEL
Mae Andy yn un o’r DJ’s feinyl mwyaf blaenllaw yn fyd-eang ac yn awdurdod ar hen recordiau mewn sawl iaith yn ogystal a’r Gymraeg wrth gwrs gyda’i gasgliadau Welsh Rare Beat yn ymddangos ar ei label Finder’s Keepers.
DJ DON LEISURE
Braint cael ymweliad arall ag Ara Deg gan Don Leisure – y cynhyrchydd o Aberdar. Bydd yn cyflwyno set unigol yn y Fic ac hefyd yn cydweithio ag Andy Votel i gloi Nos Sadwrn.
pris
- £22.00
Dyddiad
- Awst 24 2024
- Expired!
Amser
- 7:00 pm