ARA DEG 2024 (TRWY DYDD SADWRN): GRUFF RHYS, STRAWBERRY GUY, FFLAPOGRAM, PAT MORGAN ac ALAN HOLMES, Ffilm: PANDORA’S BOX
10:00 – Ffair recordiau, llyfrau, dillad a brecwast – Mae ffair recordiau Ara Deg yn dychwelyd i gyntedd Neuadd Ogwen o 10yb, lle gewch gyfle i ddarganfod eitemau gwych!
11:00 – Ffilm PANDORA’S BOX gyda thrac sain byw gan PAT MORGAN & ALAN HOLMES – Cysylltodd Pat o Datblygu ag Alan yn ddiweddar i awgrymu recordio sesiwn Radio Cymru, a chytunodd wrth gwrs. Roedd gan y ddau hanes o gydweithio, felly fe wnaethon nhw awgrymu gweithio ar drac sain ffilm yn deyrnged i Emyr, a fyddai’n aml â thrac sain byw i’r ffilmiau mud y byffai’n rhaglenu yn Pontio ym Mangor. Awgrymodd Pat glasur P W Pabst o 1929, “Pandora’s Box”, gyda Louise Brooks yn serennu, a oedd hefyd yn digwydd bod yn un o hoff ffilmiau Alan. Bydd y ddeuawd yn creu trac sain y ffilm yn y prynhawn, ac yn chwarae ychydig o ganeuon gyda’r nos (fel Merched Lloerig).
15:00 STRAWBERRY GUY + cefnogaeth i’w gadarnhau (Capel Jerwsalem) – Diolch aruthrol i Alex Morrison y cerddor amryddawn am grybwyll fod Strawberry Guy yn artist lleol ac awgrymu ein bod yn dod a fo i Ara Deg.
17:00 – DJ DON LEISURE ( Fic) – Bydd Don yn cyflwyno set unigryw yn y Fic ac yn cydweithio gydag Andy Votel i gloi nos Sadwrn.
19:00 – MERCHED LLOERIG – Pat ac Alan yn dechrau pethe ffwrdd am y noson.
FFLAPOGRAM – Mae Fflapogram yn driawd sy’n cynnwys Ann Matthews (llais a gitâr), Alan Holmes (gitâr) a Dewi Evans (allweddellau). Maen nhw’n perfformio deunydd o’u grwpiau blaenorol Fflaps, Ectogram a Rheinallt H Rowlands, er mewn ffurf wahanol iawn, yn bennaf oherwydd eu diffyg drymiwr.
GRUFF RHYS – Bydd Gruff (gyda Kliph Scurlock, Osian Gwynedd, Huw V Williams a Gruff Ab Arwel) yn chwarae set sy’n cynnwys caneuon o’r recordd hir ddiweddaraf Sadness Sets Me Free.
DJ DON LEISURE – gyda’i ail set o’r diwrnod.
DJ ANDY VOTEL – Bydd yn dod a cysyniad ei noswaith B Music i gloi Ara Deg 2024.
pris
- £30.00
Dyddiad
- Awst 24 2024
- Expired!
Amser
- 10:00 am