Arrested Development @ Neuadd y Farchnad, Caernarfon

Byddwch yn barod i brofi noson fythgofiadwy o gerddoriaeth fyw yn Neuadd y Farchnad, Caernarfon wrth i ni gyflwyno, ar y cyd â GlobalHeads, y grŵp hip-hop chwedlonol Arrested Development, sydd wedi ennill Grammy ddwywaith, fel rhan o’u daith ’30 years of People Everyday’ UK & Ewropeaidd.

Mae Arrested Development yn un o’r grwpiau mwyaf uchel eu parch a chymeradwyaeth mewn hip-hop. Yn adnabyddus ledled y byd am eu lyrics am dan gymdeithas a’u neges gadarnhaol, fe wnaeth eu senglau poblogaidd ‘People Everyday’, ‘Mr Wendall’ a ‘Tennessee’ helpu i baratoi’r ffordd ar gyfer hip-hop ymwybodol yn y byd cerddoriaeth.

AD oedd yr artistiaid hip-hop cyntaf erioed i dderbyn y Grammy “artist newydd gorau”. Derbyniodd y grŵp hefyd Grammy am y “sengl rap orau” am eu cân anthemig, ‘Tennessee’. Tynnodd ‘Mr Wendal’ sylw at ddigartrefedd, a rhoddodd y grŵp hanner y breindaliadau gan ‘Mr Wendal’ i elusen ddigartrefedd genedlaethol. Ysgrifennwyd cân Arrested Development, ‘Revolution’, ar gyfer y ffilm Malcolm X gan Spike Lee, a bydd yn gysylltiedig am byth ag un o ffilmiau pwysicaf diwylliant Du.

Mae sioeau Arrested Development yn ddathliad o hip-hop a bywyd fel un parti mawr!

Gyda chefnogaeth perfformiad gan yr artist drill a rap dwyieithog lleol Sage Todz, dewch i ymuno ag Arrested Development a DJs preswyl Globalheads – DJ fflyffilyfbybl a Martin 9Bach – ar y llawr dawnsio yn Neuadd y Farchnad, Caernarfon.

pris

£20.00

Dyddiad

Gorff 26 2023
Expired!

Amser

7:00 pm

Organizer

Globalheads