BALCHDER GOGLEDD CYMRU BETHESDA

Balchder Gogledd Cymru 2025 yn meddiannu Neuadd Ogwen am noson o fynegiant beiddgar, sain bwerus a dathliad di-felwyn-ar-dafod sy’n cyfuno i greu digwyddiad bythgofiadwy.

🎤 Prif berfformiwr – Liam J Edwards

🎙️ Gwesteiwr – Canvas
Canvas, yr angel artistig o Fôn, fydd yn arwain y noson, gan ddod â swyn camp, creadigrwydd, ac ychydig bach o fraw i’r digwyddiad. Disgwyliwch hiwmor miniog, canu greddfol, a phresenoldeb fydd yn dod â steil unigryw i’r noson.

🥁 Yn perfformio – Batala Bangor
Batala Bangor yw cangen Gogledd Cymru o’r mudiad byd-eang samba reggae Affro-Frasilaidd. Mae’r grŵp drymio cymunedol yma’n cyflwyno rhythmau heintus ac egniol sy’n deillio o draddodiadau cerddorol bywiog Salvador, Brasil. Mae perfformiadau Batala Bangor yn galw arnoch i ddawnsio ac yn ddatganiad o undod — gan ddod a churiad a chalon i Balchder Gogledd Cymru 2025.

🎶 Perfformwyr cefnogol & DJs
Bydd y noson yn cynnwys cymysgedd bywiog o gerddoriaeth fyw, drag arloesol a DJs yn cymysgu popeth o anthemau queer i guriadau tanddaearol, gan greu awyrgylch sydd yr un mor amrywiol a deinamig â’r gymuned sy’n cael ei dathlu.

Eleni, mae Balchder Gogledd Cymru yn Neuadd Ogwen yn fwy na sioe. Mae’n ddatganiad.
Mae’n rhythm, yn wrthwynebiad, ac yn ddathliad — i gyd mewn un lle.

@balchdergogleddcymru

Wedi’i gyflwyno i chi gan Pride Cymru Wales, sefydliad dan arweiniad gwirfoddolwyr sy’n anelu at ddathlu a chreu lle i gymuned amrywiol LHDT+ Gogledd Cymru. Efallai na fydd llawer o bobl LHDT+ yn gallu fforddio tocyn ond bydde wrth eu bodd yn bod yno, os gallwch fforddio prynu tocyn undod i’w gadw ar y drws iddyn nhw, byddwn yn hynod ddiolchgar.

pris

£15.00

Dyddiad

Gorff 05 2025
Expired!

Amser

5:00 pm - 11:55 pm

Organizer

Neuadd Ogwen
Neuadd Ogwen
Phone
01248 208850
E-bost
post@neuaddogwen.com