Banda Bacana @ Neuadd y Farchnad, Caernarfon

Banda Bacana – Rhythmau Melys a Harmoniau Hypnotaidd o Ogledd Cymru

Mae Globalheads, y noson Cerddoriaeth Byd misol cyffrous yng Nghaernarfon, wedi bod yn dod ac enwau mawr a thalentau rhyngwladol i Ogledd Cymru yn y misoedd diwethaf! Rwan, ‘da ni’n dod a grŵf lleol fydd yn tanio’r Haf gyda hoff fand Affro-Ladin Ffync Gogledd Cymru. Rwan, ‘da ni’n dod a grŵf lleol fydd yn tanio’r Haf gyda hoff fand Affro-Ladin Ffync Gogledd Cymru.

Wastad yn brofiad byw anhygoel, mae Banda Bacana yn fand 9 rhan sydd wedi adeiladu enw da ymhlith cefnogwyr cerddoriaeth y byd a churiadad affro-ladin am ysgwyd llawr y ddawns. Mae eu cerddoriaeth yn dod o ystod eang o ddiwyllianau a dylanwadau: ffync, afrobeat, lladin, reggae a ska gyda phwyslais ar grŵfs heintus, symud go iawn a chael hwyl.

Ymunwch gyda Banda Bacana a phreswylwyr Globalheads DJ Fflyffilyfbybl & Martin 9Bach ar lawr y ddawns yn Neuadd y Farchnad, Caernarfon!


pris

£12.00

Dyddiad

Meh 23 2023
Expired!