DATHLIAD CYMRU AFFRICA (Gwener): Bassekou Kouyate a Ngoni Ba, Hanisha Solomon, Dafydd Iwan & Ali Goolyad
Tocyn ar gyfer pob perfformiad cerddoriaeth yn y Neuadd Ogwen ar Dydd Gwener
Comisiwn yr Ŵyl Dafydd Iwan & Ali Goolyad
Hanisha Solomon
Bassekou Kouyate & Ngoni Ba
Mae ei fand, Ngoni Ba, yn cynnwys chwaraewyr ngoni (yn cynnwys ngonis o wahanol feintiau tonyddol), offerynnau taro (drwm siarad, Yabara, Calebasse) a’r gantores wych Amy Sacko. Gyda’i gilydd mae’n nhw wedi chwyldroi swn y ngoni, ac wedi gwthio canrifoedd o draddodiadau griot yn radical i’r dyfodol. Mae Bassekou yn cael ei gydnabod fel arloeswr ac yn gadarnle i gerddoriaeth draddodiadol Malian, ac mae wedi cydweithio â phobl fel Ali Farka Toure, Toumani Diabate, Taj Mahal, a The Kronos Quartet, ac yn 2016 ymunodd â thaith Affrica Express ynghyd â Damon Albarn a Paul Weller. Roedd albwm diweddar Bassekou “Miri” (‘breuddwyd’ yn Bamana) ar frig Siartiau Cerddoriaeth y Byd Ewrop ym mis Chwefror 2019 ac fe’i pleidleisiwyd yn “Albwm Gorau’r Flwyddyn” gan gylchgrawn Songlines.
Deheurwydd anhygoel a cherddoriaeth syfrdanol gan un o arwyr cerddoriaeth Affrica.
“Defiant, angry new music from Mali, by the world’s greatest exponent of the ngoni, the ancient West African lute” THE GUARDIAN
pris
- £18.00
Dyddiad
- Meh 02 2023
- Expired!
Amser
- 7:30 pm - 11:30 pm