BMC Hongian Ffest
Reel Pesda Roc o ffilmiau dringo Cymreig, sgwrs gan y dringwraig a’r route setter lleol Zoe Wood, a sesiwn holi ac ateb gyda dringwyr lleol wedi’i arwain gan Calum Muskett.
BMC Hongian Ffest a’r Daith – Bethesda 2026
Nôl yn 2015 lansiwyd prosiect dringo ieuenctid Hongian mewn dwy ardal chwarelyddol – Blaenau Ffestiniog a Bethesda. Ers hynny mae’r prosiect wedi tyfu’n ŵyl ddringo ac awyr agored ddwyieithog: BMC Hongian Ffest, wedi’i gwreiddio yn nhirweddau llechi gogledd Cymru.
Eleni mae Hongian yn mynd ar daith.
Yn 2026 bydd yr ŵyl yn teithio i Fethesda, gan ddychwelyd i un o’r llefydd lle dechreuodd y stori. Wedi’i hamgylchynu gan dirweddau llechi Dyffryn Ogwen a diwylliant dringo cryf yn yr ardal, mae’n lle gwych ar gyfer penwythnos o ddringo a bod allan yn y bryniau efo’n gilydd.
BMC Hongian Ffest yw’r unig ŵyl ddringo ac awyr agored ddwyieithog yng Nghymru, ac rydym yn edrych ymlaen yn fawr at ddod â Hongian i Besda.
Ymunwch â ni nos Wener o tua 7pm ymlaen yn Neuadd Ogwen am noson hamddenol gyda ffilmiau dringo byrion gan Doylo, soffa pow-wow a miwsig byw. Byddwn yn dangos detholiad o ffilmiau dringo byrion, gyda chyfle i rannu straeon a chysylltu gyda’r gymuned. …ynghyd â set acwstig ymlaciol gan Lewis Perrin. Perffaith i gychwyn penwythnos Hongian mewn ffordd gymdeithasol a chroesawgar.
Nos Sadwrn @ 7:30y.h – Ymunwch â ni wrth i ni ddathlu noson o ddringo a cherddoriaeth gyda Hongian drwy ffilm, sgwrs a cherddoriaeth.
Ffilm – Pesda Roc
Sgwrs – gyda Zoë Wood
Wedi’i ddilyn gan ddangosiadau cyntaf ffilmiau byrion gan Mimi White a Huw James, yn dilyn Osian Parry a Calum Muskett wrth iddynt ddatblygu llwybrau newydd yn yr ardal.
Dilynir hyn gan sesiwn Holi ac Ateb gyda’r dringwr a’r cerddor lleol Osian Parry yn chwarae rhywfaint o Reggae i gloi’r noson.
- £12.00
- Mai 30 2026
- Expired!
- 7:30 pm