Bye Bye Tiberias
Bye Bye Tiberias by Lina Soualem with Hiam Abbass
Ffrainc, Palestina, Gwlad Belg, Catar 2023 / 89 mun
Iaith: Frangeg, Arabeg Palestina gyda isdeitlau Saesneg
Mae dyfroedd dwfn yn amlinellu cyfuchliniau rhaglen ddogfen osgeiddig a chwilfrydig Soualem, sy’n adrodd straeon 4 cenhedlaeth o fenywod yn ei theulu. Mae ei mam, yr actores enwog Hiam Abbas, yn ganolog i’w hymgais—ar ôl gadael cartref ei theulu yn Deir Hanna, yng Ngalilea, yn 23 oed i ddilyn ei breuddwyd o actio. Mae Soualem yn cyffwrdd ar archifau personol ei phlentyndod, gan roi straeon teuluol at ei gilydd yn dyner. Mae ei mam a’i modrybedd yn byrlymu gyda chynhesrwydd a chwerthin wrth iddynt hwythau gofio, hyd yn oed actio allan eiliadau tyngedfennol eu bywydau yn chwareus. Fel yn ffilm gyntaf Soualem, Their Algeria (2020), a oedd yn edrych at dawelwch ei neiniau a theidiau o Algeria gyda hoffter ac angen dwfn i’w deall yn well, mae cwestiynau trosglwyddo yn parhau i fod yn bryder canolog.
“On the Palestinian side of my family, the transmission of our history has always been a central focus. It’s through speaking that we survive, it’s by telling that we break free.” Yn fama, mae agosatrwydd teuluol yn gweithredu fel drych i hanesion cyfunol. Mae menywod y teulu yn cofio eu henuriaid—o’u mam Um Ali i’w nain Nemat—y ddwy yn fenywod cryf, aruthrol y lluniwyd eu bywydau gan y Nakba, a’u dadleolodd nhw o Tiberias. Mae coeden deulu ddarluniadol wedi’i rhoi at ei gilydd ar y wal. Wrth i atgofion gael eu hadfywio, mae mosaig o ‘beth os’ yn mudferwi.
ENNILLYDD: Gŵyl Ffilm Llundain BFI 2023, Gwobr Grierson, Y Rhaglen Ddogfen Orau
Gŵyl Ffilm Môr y Canoldir Montpellier 2023, Gwobr Ulysses, Y Rhaglen Ddogfen Orau
Gŵyl Ffilm Ryngwladol Marrakech 2023, Prix Du Jury, Lina Soualem
- Awst 22 2025
- Expired!
- 7:30 pm