CALFARI
Ffurfiwyd Calfari ym mis Hydref 2014. Mae’r band yn cynnwys Bryn Hughes Williams (prif leisiau), Tomos Gashe (gitâr), Siôn Jones (gitâr/llais), Gavin Malone (bas), Dave Woodhouse (drymiau) ac Elin Angharad (llais).
Gyda sŵn Pop-Roc Cymreig bachog a chyfoes, bu’r band yn perfformio ledled Cymru ac mewn gwyliau mawr, gan gefnogi artistiaid fel y Proclaimers, Johnny Marr a Jools Holland.
Rhyddhawyd eu halbwm cyntaf, Gorwelion, yn 2017, yn dilyn dau EP llwyddiannus, Nôl ac Ymlaen a Tân. Yn 2026, mae Calfari wedi dod ynghyd eto i recordio deunydd newydd. Rhyddhawyd y sengl gyntaf, Nôl Mewn Amser, ym Mehefin 2026, gyda EP newydd ar y gweill ar gyfer dechrau 2027.
Gig sefyll fydd hwn.
pris
- £12.00
Dyddiad
- Hyd 02 2026
- Expired!
Amser
- 7:30 pm