DATHLIAD CYMRU AFFRICA 2024 (Sadwrn): Ibibio Sound Machine, Asya Satti gyda Yaz Fentazi

Ibibio Sound Machine

Gyda’r lleisydd o Nigeria, Eno Williams, mae Ibibio Sound Machine yn wrthdrawiad 8 person o elfennau Affricanaidd ac electronig sydd wedi’u hysbrydoli’n hefyd gan oes aur ffync, disgo ac electro post-pync Gorllewin Affrica o’r 70au ac ôl-bync modern sy’n creu eu sain hynod nodedig. Gyda geiriau yn Saesneg ac yn yr iaith Ibibio o dde-ddwyrain Nigeria, mae ysbrydoliaeth Williams ar gyfer cyfansoddi caneuon yn seiliedig ar straeon o’i magwraeth yn Nigeria. Maen nhw wedi cyrraedd llwyfannau ledled y byd, gan gynnwys Glastonbury, Womadelaide 2024 a Laters With Jools Holland.

Asya Satti gyda Yaz Fentazi

Daw tapestri o synau byd-eang Asya Satti o Sweden-Swdan o dreulio blynyddoedd yn teithio rhwng Sweden, yr Aifft a’r DU. Ychwanegodd hyn at ei chariad at gerddoriaeth ei gwreiddiau Swdan a’i hawydd i uno cerddoriaeth Swdan Sufi â synau Gorllewinol ac Arabaidd. Fe wnaeth gweithio gyda Yaz Fentazi ei helpu i ddatgloi’r sain honno, ac mae wedi dod yn gydweithredwr rheolaidd. Mae ei cherddoriaeth wedi denu rhaglenni ar y radio gan Tom Robinson gyda BBC Introducing ynghyd â sylw gan Clash, Wonderland, Notion, FAULT Magazine, Women in Pop ac XS Noize.

“a mesmerising fusion of modern alternative RB, traditional Sudanese classical guitar, and energizing percussion.” – FAULT Magazine.

Mae’r chwaraewr penigamp o Algeria, Yaz Fentazi, yn cyfansoddi cyfuniad o gerddoriaeth draddodiadol a modern i arddull gyfoes o gyfuniad Gogledd Affrica. Mae The Guardian wedi disgrifio cyfansoddiadau Fentazi fel rhai sydd a “breadth and atmosphere, and his oud soloing, which recalls the drive and dynamism of world oud star Anouar Brahem, is often stunning”. Mae wedi perfformio a recordio gyda llawer o artistiaid gan gynnwys: The Master Drummers of Affrica, Robert Plant (Led Zeppelin), Natacha Atlas, Trance Global Underground, Marc Almond, Cheb Mami.

 

Cymdeithas Affrica Gogledd Cymru

Sefydlwyd Cymdeithas Affrica Gogledd Cymru (NWAS) yn 2018, gan grŵp o unigolion angerddol a oedd eisio wneud gwahaniaeth yn eu cymuned leol. Bwriad y gymdeithas yw sicrhau cymdeithas gynhwysol fywiog drwy ganolbwyntio ar faterion cymdeithasol, addysg a busnes sydd o ddiddordeb i Gymru ac Affrica.

Dros y blynyddoedd, mae’r gymdeithas wedi cymryd rhan mewn a chynnal nifer o ddigwyddiadau cymdeithasol-ddiwylliannol, gan ddefnyddio pob cyfle i ledaenu ei neges o “Diversity Makes Society”. Mae NWAS yn gyffrous i arddangos eu talent a rhannu eu neges gyda chynulleidfa ehangach. Maent yn gobeithio y bydd eu perfformiad yn ysbrydoli eraill i ymuno â’u hachos a chael effaith gadarnhaol yn eu cymunedau.

 

Successors Collective

Band newydd yw Successors Collective sy’n dod ag artistiaid ynghyd i greu sain ffync jazz Affro-Gymreig newydd. Mae’r grŵp yn gronfa mawr o artistiaid sy’n rhannu ysbryd a chariad at gerddoriaeth sy’n cyfnewid i mewn ac allan rhwng gigs ac yn ystod yr un set, gan greu’r naws Collective.

 

Sabari Kagnin

Sefydlodd Ousmane Kouyaté y grŵp Sabary Kagnin yn 2023 mewn ymdrech i hyrwyddo diwylliant cerddorol Gini, ef hefyd yw sylfaenydd Kobenawati (grŵp diwylliannol sy’n anelu at hyrwyddo diwylliant, dawns, canu a cherddoriaeth draddodiadol Affricanaidd a Gini yn bennaf).

Ganed Ousmane i deulu griot yn Conakry, mab i’r balafonydd enwog Fatoumata Kouyaté a elwir hefyd yn Djeliguinet. Dysgodd Ousmane y balafon o oedran cynnar hefyd. Mae Sabary Kagnin nid yn unig yn addasu cerddoriaeth a chaneuon traddodiadol Gini ond hefyd yn perfformio cyfansoddiadau gwreiddiol gan ddefnyddio offerynnau traddodiadol fel balafonau, koras, drymiau, boté, bolon a krins.

Bydd y grŵp yn ymuno â ni o Ffrainc ar gyfer y perfformiad arbennig hwn.

pris

£25.00

Dyddiad

Tach 23 2024
Expired!

Amser

4:30 pm

Organizer

Neuadd Ogwen
Neuadd Ogwen
Phone
01248 208850
E-bost
post@neuaddogwen.com