Dathlu Hud a Lledrith Cymru 2025
KRISTOFFER HUGHES – Y Cylch Cyfrin, y Goes Ddu a’r Grimoire Coll
Mae llên gwerin a chwedlau Cymru wedi cael effaith enfawr ar y gymuned Ocwlt fyd-eang, ond tybed a oes tystiolaeth am ymarferion argel sy’n unigryw i Gymru? Yn y cyflwyniad hwn, mae Kristoffer yn mynd â ni ar daith i ymchwilio Cylch Cyfrin Môn, chwedl Y Goes Ddu a’r grimoire anghofiedig o Lynllifon: taith sy’n plethu traddodiadau gwerinol a brodorol a’u dylanwad ar y Traddodiad Argel Gorllewinol.
Mae KRISTOFFER HUGHES yn bennaeth Urdd Derwyddon Môn ac yn awdur arobryn sawl llyfr a thri dec Tarot. Mae’n aelod gweithgar o Urdd y Beirdd, Ofyddion a Derwyddon ac yn aelod o Orsedd Cymru. Ymddeolodd o wasanaeth HM Crwner yn 2021 ac mae bellach yn gyflwynydd teledu ac actor, ac yn teithio’r byd yn darlithio.
ANGHARAD WYNNE – Perthyn
Mae ANGHARAD WYNNE yn awdur a storïydd, yn ymgynghorydd sy’n gweithio ym maes diwylliant a chreadigrwydd, a gwneuthurydd lleoedd ac arbenigydd treftadaeth; sy’n gweithio yng Nghymru, yn y DU, Iwerddon a’r Unol Daleithiau. Yn gynyddol y dyddiau hyn, mae Angharad yn dychwelyd tuag at ei chariad at straeon, natur a thirwedd; gan ysgrifennu, rhedeg encilion a phererindodau sy’n archwilio’r dirwedd chwedlonol, hud natur a byw yn eneidiol.
Mae adennill lleisiau coll – lleisiau merched yn enwedig – ac archwilio’r anhraethadwy, gan chwilio am ddoethineb o fewn straeon sy’n ymddangos yn bwysig ar gyfer ein hamser ni, bellach yn elfennau allweddol trwy waith Angharad. Mae Angharad yn fardd ac awdur cyhoeddedig, yn arweinydd teithiau cerdded ac alldeithiau, yn gyd-sylfaenydd balch The Animate Earth Collective a Chyfarwyddydd Dreaming The Land. Mae hi’n hapus briod â Mike, yn fam i Myfi a llysfam i Amber: gyda phawb yn cael eu rheoli’n fedrus gan Cadi’r ci defaid.
Mi fydd Angharad yn trafod : PERTHYN – gwraidd animistaidd ein traddodiadau ysbrydol brodorol a’u pwysigrwydd heddiw.
Dr GWILYM MORUS-BAIRD – Duwiesau yn Y Mabinogi
Ydi hi’n bosib adnabod duwiesau yn nhestun y Mabinogi? Debyg byddai’r rhan fwyaf ohonom yn rhoi ateb cadarnhaol i’r cwestiwn. Ond pam felly? Beth yn union ydan ni’n feddwl gan ‘dduwies’? Drwy herio’r diffiniad modern, gellir dechrau gwerthfawrogi pa mor amwys ydi’r ffin rhwng meidrol a dwyfol yn ein hen chwedlau.
Mi fydd Gwilym yn trafod rhagdybiaethau ysgolheigion cynnar, yn enwedig y duedd i weld unrhyw ffigwr benywaidd pwerus neu oruwchnaturiol yn nhermau crefyddol Rhufain a Groeg. Edrychwn ar gymeriadau fel Rhiannon, Branwen, Arianrhod a Blodeuwedd gan geisio dirnad sut byddai’r Brythoniaid wedi canfod ffigyrau tebyg. Byddwn yn gofyn, beth sy’n cael ei guddio gan y term ‘duwies’
Mae Dr GWILYM MORUS-BAIRD yn ysgolhaig o fri sy’n rhannu ei astudiaethau i ddoethineb, hanes, llenyddiaeth a chwedloniaeth Geltaidd gydag eraill ledled y byd, trwy gyfrwng ei gyrsiau ar-lein hynod ddifyr. Mae hefyd yn gerddor medrus sydd wedi rhyddhau sawl albwm Cymraeg, ac mae ganddo dros ddau ddegawd o brofiad ym maes cyfansoddi a pherfformio yn ogystal â chynhyrchu, theatr ac adrodd straeon.
MHARA STARLING – Tylwyth Teg, Ysbrydion Cyfarwydd, a’u perthynas gyda swynwyr Cymru
Drwy’r oesoedd mae’r Cymry wedi cydnabod y ffaith ein bod ni’n cael ymweliadau o bryd i’w gilydd gan drigolion Annwfn, yr arallfyd. Mae gennym lawer o enwau ar yr ymwelwyr yma : Y Tylwyth Teg, Ellyllon, Plant Annwfn. Er bod gan y rhan fwyaf o bobl ofn y Tylwyth Teg, ‘roedd ymarferwyr hudoliaeth yn creu perthynas gyda nhw’n aml. Mi fydd Mhara’n edrych ar goelion traddodiadol Cymreig sy’n ymwneud â’r Tylwyth Teg, ac yn benodol ar sut yr oedd y Tylwyth Teg yn rhan fawr o waith y swynydd, y bobol hysbys, ac ymarferwyr hudolus yma yng Nghymru.
Mae MHARA STARLING yn Swynwraig ac awdur ‘Welsh Witchcraft: A Guide to the Spirits, Lore, and Magic of Wales’ a ‘Welsh Fairies: A Guide to the Lore, Legends, Denizens & Deities of the Otherworld’. Mi fydd ei thrydydd llyfr ‘Pagan Portals: Y Mabinogi’ yn cael ei gyhoeddi ym mis Ebrill 2025. Yn wreiddiol o Aberffraw, Ynys Môn, mae Mhara yn rhannu ei chariad tuag at chwedloniaeth a hudoliaeth Cymru drwy ei sianel YouTube, tudalennau cyfryngau cymdeithasol, a’i phodlediad ‘The Welsh Witch Podcast’. Mae hi hefyd yn cynnal gweithdai a chyrsiau ar lein ac mewn person. Wedi ymddangos mewn cyfresi teledu a rhaglenni dogfen amrywiol yn y Gymraeg a’r Saesneg, mae Mhara ar ei hapusach pan mae hi’n swyno pobol gyda straeon hud a lledrith Cymru.
RHYS MWYN – Hud a Lledrith ac Archaeoleg – y siambrau claddu Neolithig
Beth ydi’r cysylltiad rhwng hud a lledrith ac archaeoleg? Mi fydd Rhys yn trafod hyn yng nghyd-destun siambrau claddu Neolithig Cymru.
Cafodd RHYS MWYN ei eni a’i fagu yng Nghanolbarth Cymru, yn Llanfair Caereinion, ond erbyn hyn mae’n byw yng Nghaernarfon gyda’i wraig Nest a’u plant. Rhwng 1982 a 1994 bu’n fasydd gyda’r ‘Anrhefn’, un o fandiau chwedlonol diwylliant cerddoriaeth gyfoes Cymru. Yn 1983, fe sefydlodd label Recordiau Anrhefn, un o labeli mwyaf blaengar a dylanwadol hanes cerddoriaeth gyfoes Cymru. Wedi hynny bu Rhys yn rheolwr ar nifer o fandiau gan gynnwys Catatonia. Mae’n cyflwyno rhaglen wythnosol ar Radio Cymru lle mae’n chwarae cerddoriaeth o’r 70au, 80au a’r 90au a sgwrsio gyda phob math o artistiaid. Mae Rhys hefyd yn angerddol am archaeoleg – yn gweithio fel archeolegydd ac yn darlithio yn y maes.
Bydd y cyflwyniadau hyn yn cael eu cyfieithu ar y pryd gan wasanaeth cyfieithu Geiriau Gwyn. Sefydlwyd Geiriau Gwyn yn 1999 fel cwmni sydd yn darparu gwasanaeth cyfieithu Cymraeg>Saesneg.
Darparai’r cwmni wasanaeth cyfieithu ar y pryd ac ysgrifenedig ar draws Cymru gyfan, ac hyd yn oed ymhellach. Mae’r perchennog GWYNFOR OWEN yn aelod achrededig [Cyfieithu ar y Pryd] o Gymdeithas Cyfieithwyr Cymru, ac wedi ymrwymo i ddarparu cyfieithiadau o’r safon uchaf posib.

pris
- £20.00
Dyddiad
- Ebr 26 2025
- Expired!
Amser
- 9:30 am - 5:30 pm