David Attenborough: A Life On Our Planet (AM DDIM)

Dangosiad o David Attenborough: A Life On Our Planet gyda GwyrddNi a Dyffryn Gwyrdd.

Mae gyrfa darlledu’r naturiaethwr Sir David Attenborough yn mynd yn ôl chwe degawd. Mae wedi ymweld â phob cyfandir ar y blaned, yn archwilio lleoedd gwyllt ein byd gan ddod a rhyfeddodau bywyd gwyllt yn fyw i gynulleidfaoedd ar draws y byd drwy gyfresi teledu oedd yn torri tir newydd. Yn ei fywyd mae Sir David Attenborough wedi gweld gyda’i lygaid ei hun y raddfa o newid amgylcheddol sy’n cael ei achosi gan weithred ddynol. Rŵan, am y tro cyntaf mae’n adlewyrchu ar y newidiadau dinistriol mae wedi ei weld ac yn datgelu sut gallwn, gyda’n gilydd dod i afael a’r heriau mwyaf sydd yn wynebu ein planed.


Wedi ei gynhyrchu gan Silverback Films a WWF, David Attenborough: A Life On Our Planet yw stori orau Sir David Attenborough hyd yma – hanes gan lygad-dyst o fyd natur a’i weledigaeth i’r dyfodol.

Dyma gyfle i gyd-wylio’r ffilm ac yna trafod ffilm, a sut allwn ni mynd ymlaen i weithredu.

pris

Free

Dyddiad

Medi 26 2021
Expired!

Amser

Drysau / Doors - 6.30PM
7:00 pm