DAWEL NOS (Theatr Bara Caws)

Miliwnydd, naci biliwnydd a chybudd o fri yw Eban Gandryll – perchennog T.W.A.T (Tegannau Wil a Tina). Mae’n gas ganddo’r ‘Dolig ac unrhyw beth sydd yn ymwneud â’r ‘Dolig. Ond nid felly’r oedd hi– flynyddoedd maith yn ôl, â’r busnes yn ffynnu…… as in really funny, roedd o’n ddyn cydwybodol, croesawgar, a charedig.

Beth am ymuno â ni ar y dawel nos hon, i weld a lwyddith Dilwyn Trwmp, perchennog Toys-we’R, i daro bargen a phrynu T.W.A.T? A fydd Bob Scratchit yn llwyddo i ddenu digon o bres i gael y lawdriniaeth angenrheidiol i Twm Fychan? Fydd Lleucu Sbync yn llwyddo i dynnu Cracer ‘Dolig ‘rhen Eban? Neu yn bwysicach oll, fydd ‘Death’ yn llwyddo i gnocio ychydig bach o synnwyr i ben yr hen sinach?

Ymunwch â ni, staff achwsmeriaid T.W.A.T am noson o ddiddanwch a chwerthin fydd yn siŵr o’ch cael yn hwyl ac ysbryd yr ŵyl.

 

NADOLIG LLAWEN / MERRY CHRISTMAS

 

Yr Actorion : – Iwan Charles, Mari Emlyn, Llyr Evans, Carys Gwilym a Emyr ‘Himyrs’ Roberts

Cyfarwyddwr – Iwan Charles

Cyfnod Teithio – 8, 9,10,11,15,16,17 a 18 RHAGFYR (Mercher – Sadwrn)

 

Canllaw Oed – 18 +

Drysau yn agor am 7.30 yh i chi gael llymaid bach, a’r sioe i gychwyn am 7.45 (neu pryd bynnag bydd y cast yn barod!)


pris

£13.00

Dyddiad

Rhag 08 2021
Expired!

Amser

Drysau - 7.30yh
7:30 pm