DERVISH

Mae’r band gwerin Gwyddelig Dervish, yn un o fandiau traddodiadol mwyaf adnabyddus Iwerddon ac yn cael eu disgrifio gan y BBC fel “eicon o gerddoriaeth Wyddelig”.

Derbynwyd Dervish wobr fawreddog cyrhaeddiad oes gan y BBC yn 2019, teyrnged deilwng i’r band ar ôl dros 30 mlynedd o recordio a pherfformio ledled y byd, gan chwarae mewn gwyliau o Rio i Glastonbury. Mae gan Dervish arlwy sy’n cynnwys rhai o gerddorion traddodiadol gorau Iwerddon, dan arweiniad un o gantorion mwyaf adnabyddus y wlad, Cathy Jordan. Yn cael ei hystyried gan lawer fel y llais mwyaf nodedig a’r blaenwraig orau yng ngherddoriaeth draddodiadol Iwerddon heddiw – mae’r arlwy offerynnol o ffidl, ffliwt, bouzouki, mandola, bodhran ac acordion yn tynnu o ddyfnderoedd di-ben-draw o dalent, cain, cynnil ac egni tanllyd. Daw cerddoriaeth eithriadol, lleisiau syfrdanol, setiau bywiog o alawon a chaneuon gafaelgar i gyd at ei gilydd i wneud Dervish yn fand mor gyflawn ag sydd i’w gael yn unrhyw le yn y traddodiad.

Mae Dervish yn ymwelwyr cyson â’r Unol Daleithiau, yn perfformio sioeau sydd wedi gwerthu pob tocyn o arfordir i arfordir. Fodd bynnag, mae eu cefnogwyr yn ymestyn ar draws sawl cyfandir, gan gynnwys Ewrop, Asia a De America. Nhw oedd y band Gwyddelig cyntaf i chwarae gŵyl gerddoriaeth fwyaf y byd, Rock in Rio, gan berfformio i tua 250,000 o bobl. Dros y blynyddoedd maen nhw wedi bod ar yr un rhaglen ag artistiaid fel James Brown, Neil Young, Sting a hyd yn oed Iron Maiden!

Mae chwe aelod Dervish wedi’u trwytho yn nhraddodiadau cerddorol siroedd Sligo a Leitrim yng ngogledd-orllewin Iwerddon. Mae’n ardal sy’n paru arfordir yr Iwerydd â mynyddoedd a thirweddau gwledig dirdynnol. Mae wedi ysbrydoli llu o gerddorion, artistiaid ac awduron, gan gynnwys y bardd sydd wedi ennill Gwobr Nobel, W.B. Yeats.

 

ARCHEBU TOCYNNAU

Form/ticket icon icon
DERVISH - OEDOLYN/ ADULT
£24
Form/up small icon icon Form/down small icon icon
Available Tocynnau: 328
The "DERVISH - OEDOLYN/ ADULT" ticket is sold out. You can try another ticket or another date.
Form/ticket icon icon
DERVISH - PLENTYN/ CHILD
£15
Form/up small icon icon Form/down small icon icon
Available Tocynnau: 328
The "DERVISH - PLENTYN/ CHILD" ticket is sold out. You can try another ticket or another date.
TOCYNNAU

pris

£24.00

Dyddiad

Ebr 24 2025

Amser

7:30 pm

Organizer

Neuadd Ogwen
Neuadd Ogwen
Phone
01248 208850
E-bost
post@neuaddogwen.com