DJs Andy Votel a Gruff Rhys @ Neuadd y Farchnad, Caernarfon

Mae Globalheads yn falch iawn gyflwyno bydd Andy Votel a Gruff Rhys yn DJio efo’i gilydd yn Neuadd y Farchnad, Caernarfon ar Tachwedd 24ain

Mae Andy yn gynhyrchydd, yn bennaeth label, yn ailgymysgwr, yn guradur digwyddiadau ac yn sylfaenydd y label Twisted Nerve a Finders Keepers Records sy’n ailgyhoeddi finyl ardderchog. Mae ganddo wybodaeth wyddoniadurol o gerddoriaeth unigryw, anghofiedig a rhyfeddol o bedwar ban byd. Mae’n DJ o fri rhyngwladol ac wedi perfformio mewn digwyddiadau fel Sonar, All Tomorrow’s Parties a Gwyl Green Man Festival, ac mae’n ymddangos yn rheolaidd ochr yn ochr â Stuart Maconie ar sioe Freakier Zone ar BBC 6 Music. Edrychwch ar ei gymysgeddau finyl a’i ddewisiadau ar NTS
Yn ymuno ag Andy ar y noson, gallwn gadarnhau o’r diwedd mai ei bartner DJ fydd yr unig un GRUFF RHYS ! Yn ffres o chwythu ein meddyliau efo’’r  arallfydol ANNWN yn y Castell, bydd Gruff yn mentro lawr Stryd Plas i flasu awyrgylch Globalheads yn Neuadd y Farchnad!
Mae Andy a Gruff yn ffrindiau ac yn bartneriaid DJ ers blynyddoedd. Mae’n bleser prin cael nhw i chwarae gyda’i gilydd yng ngogledd Cymru a throelli rhai o’u hoff recordiau o’u blychau disgiau gwerthfawr yna.

Popeth  Vinyl Dim isdeitlau!
Tocynnau yn unig £15

pris

£15.00

Dyddiad

Tach 24 2023
Expired!

Amser

7:30 pm

Organizer

Globalheads