DR ALEX PATTERSON (The Orb) @ Neuadd y Farchnad, Caernarfon

Cyfle prin i ddal DR Alex Paterson, un o sylfaenwyr enwog cerddoriaeth ambient house The orb, yn DJio yn fyw yng Ngogledd Cymru!

Cyn roadie Killing Joke, aelod o Kill Bloodsports, ac yn gweithio gydag E.G. Records, mae Dr Alex Paterson yn cael ei adnabod fel ysgogydd yn y chwyldro Acid House, gan fynd â ambient house i frig y siartiau, a gwthio ymylon pellaf arloesi electronig a sonig.

Mae Alex, pennaeth y llong seren, bellach yn dathlu 35 mlynedd o greu direidi gweledigaethol gyda’i fand sy’n newid yn barhaus, ynghyd â llwyddiant byd-eang o’r newydd a pharch gan genhedlaeth electronig newydd, tra’n dal i ddefnyddio rhythmau gorau dub, samplau beiddgar, tanciau arnofio cerddorol arallfydol a synnwyr digrifwch cwbl unigryw.

Ymunwch â Globalheads yn Neuadd y Farchnad, Caernarfon, wrth i ni gyflwyno noson DJ byw gyda’r dyn ei hun!

Gyda chefnogaeth gan DJs preswyl Globalheads – DJ fflyffilyfbybl a Martin 9Bach

Mae GlobalHeads yn noson cerddoriaeth byd fisol newydd sy’n dod â cherddoriaeth o bedwar ban byd i Neuadd y Farchnad Caernarfon

pris

£15.00

Dyddiad

Hyd 20 2023
Expired!

Amser

7:00 pm

Organizer

Globalheads