Ffilm: FFA COFFI PAWB

30 mlynedd ers chwalu, dilynwn hynt a helynt y band lleol ‘Ffa Coffi Pawb’ drwy chwyldro darlledu a sin gerddoriaeth danddaearol Cymru’r 80au a’r 90au. Bu’n gyfnod o newid syfrdanol. Trodd y sin DIY o feithrinfa pop ddamweiniol mewn i symudiad diwyllianol brif ffrwd erbyn cychwyn y 00s.

O Fethesda i’r Efrog Newydd gwelwn dir-lithriad o fideos llachar, gigs amrwd ac atgofion bachog drwy lygaid cyfoedion Ffa Coffi Pawb – Rhys Ifans, Mark Roberts, Owen Powell a’r bardd Nerys Wiliams. Cawn wledd gerddorol sy’n cynnwys Datblygu, Yr Anhrefn a metamorffosis Ffa Coffi Pawb a’r Cyrff i’r Super Furry Animals a Catatonia.

55 munud

Ffilm Gymraeg

Drŵs 7yh

Ffilm 7.30yh

pris

£4.00

Dyddiad

Rhag 12 2024
Expired!

Amser

7:00 pm - 10:00 pm

Organizer

Neuadd Ogwen
Neuadd Ogwen
Phone
01248 208850
E-bost
post@neuaddogwen.com