FFILM & SGWRS: PEOPLE’S EMERGENCY BRIEFING

Mae’r Deyrnas Unedig yn wynebu argyfwng hinsawdd a natur gynyddol. Ond eto, nid yw’r mwyafrif ohonom wedi cael deall beth mae hyn yn ei olygu i’n bywydau, economi a’n dyfodol ni. Mae’r ffilm People’s Emergency Briefing wedi cael ei ddylunio fel man cychwyn am sgwrs gyhoeddus ehangach am yr argyfwng hinsawdd a sut y gallem ymateb iddo. Bydd y ffilm 50 munud llawn yn cyfuno tystiolaeth wyddonol, awdurdodol, gydag ymatebion gan y cyhoedd, a rhai wynebau cyfarwydd. Mae wedi ei ddylunio i helpu’r gynulleidfa brosesu’r wybodaeth ar lefel ddynol. Mi fydd yn cyflwyno ffeithiau di-flewyn ar dafod am y bygythiadau, ond hefyd y manteision enfawr petai’r llywodraeth yn arwain ar weithredu hinsawdd go iawn.

Wedi’r ffilm bydd cyfle i drafod beth yr ydym wedi ei weld a pha gamau nesaf hoffai pobl yn yr ystafell ei gymryd, a sut y gallwn weithio hefo’n gilydd i’w cyflawni.

Bydd drysau yn agor am 7yh, gyda’r digwyddiad yn dechrau am 7:30yh.

This is a free, non-ticketed event.

Dyddiad
Hyd 01 2026
Expired!
Amser
7:00 pm