HANG MASSIVE + Nasiri

Paratowch ar gyfer profiad arallfydol cerddorol gyda Hang Massive!

Mae’n bleser gennym gyhoeddi ein bod yn dychwelyd i lwyfan Neuadd Ogwen, gan ddod â’n sioe fyw ymdrochol ddiweddaraf i chi – cyfuniad o seinweddau amgylchynol, rhythmau hylifol a synau cyfriniol y hang drum.

Rydym yn eich gwahodd ar daith gerddorol. Ymunwch â ni wrth i ni eich tywys ar daith trawsnewidiol dwys.

Gyda thon o greadigrwydd, rydym yn hynod gyffrous i fedru rannu cerddoriaeth o’n halbwm atmosfferig newydd sbon, sy’n ailddiffinio sain Hang Massive. Bydd pob sioe yn ddathliad o egni cadarnhaol a’r naws hamddenol digamsyniol y mae Hang Massive yn adnabyddus amdano.

YMUNWCH Â’R WEFR
Rydyn ni’n creu’r profiad gyda’n gilydd – mae eich presenoldeb yn gwneud pob sioe yn brofiad hudolus a phwerus! Prynwch eich tocynnau nawr i fod yn rhan o deulu Hang Massive.

NASIRI
Yn ei berfformiadau byw, mae Nasiri, yr aml-offerynnwr a chynhyrchydd rhyngwladol enwog, yn mynd â chynulleidfaoedd ar daith gerddoriaeth fyd synhwyraidd gyfoethog, gan asio offerynnau dwyreiniol fel yr oud, ffliwt, a chlarinét gyda sylfaen electronig, yn cynnwys llinellau bas dwfn, synths rhythmig. ac offerynnau taro organig.

Mae’r band yn gwerthu tocynnau trwy’r ddolen yma https://www.tickettailor.com/events/hangmassive/1236400

Dyddiad

Hyd 30 2024
Expired!

Amser

7:00 pm - 11:30 pm

Organizer

Neuadd Ogwen
Neuadd Ogwen
Phone
01248 208850
E-bost
post@neuaddogwen.com