ILUMETRIS: HERE, THERE BE MONSTERS

Camwch i fyd tywyll a ffantastig o greaduriaid chwedlonol…

Mae’r sacsoffonydd a’r cyfansoddwr Tom Thorp – sydd wedi ennill gwobrau rhyngwladol – yn mynd ar daith drwy straeon a chymeriadau o fytholeg y byd gyda’i quintet, ILUMETRIS. Ymunir â Tom gan y trwmpedwr enwog rhyngwladol Neil Yates (Mike McGoldrick Ensemble, Robbie Williams, BBC Big Band); y pianydd Andy Stamatakis Brown (Alice Zawadski, Hacienda Classical); y basydd Grant Russell (a fu gynt yn rhan o Go-Go Penguin) a’r drymiwr John Arnesen (The Big Easy, Ancient Infinity Orchestra).

Yn y sioe arddangos amlgyfrwng newydd hon, mae ILUMETRIS yn perfformio eu halbwm “Here, There be Monsters…” (AMP Records) – sydd wedi cael clod gan feirniaid – mewn cydweithrediad cyffrous â’r darlunydd a’r animeiddiwr AllMighty Steve (neu Steve Bridger). Gan gyfuno byrfyfyrdod virtuoso, rhythmau cymhleth, geiriau llafar a melodïau hyfryd, mae Here, There be Monsters… yn adrodd straeon cerddorol bythol drwy gymeriadau cyfarwydd o fytholeg y byd.

Yn y sioe arddangos gerddorol a gweledol hon sy’n cynnig profiad trochi, mae paentiadau, darluniadau ac animeiddiadau trawiadol Bridger yn cludo gwrandawyr hyd yn oed yn ddyfnach i fydoedd y Minotawr, y Ffenics mawreddog, clystyrau o bicsis dinistriol, dreigiau sy’n plymio, cewri sy’n ceisio dial a llawer mwy…

“Mae Thorp yn chwaraewr medrus ac yn gyfansoddwr gwreiddiol a llawn dychymyg. Mae ei gerddoriaeth a’i berfformiadau yn berlau disglair sy’n haeddu sylw difrifol” Xpress Magazine

Tom Thorp – Sacsoffon/Clarinét Bas
Neil Yates – Trwmped/Flugelhorn
Andy Stamatakis-Brown – Piano
Grant Russell – Bas
John Arnesen – Drymiau

Mae Neil Yates, sy’n dod o Fae Colwyn ei hun, yn chwarae’r trwmped a’r flugelhorn.

Digwyddiad eistedd fydd hwn.

 

ARCHEBU TOCYNNAU

Form/ticket icon icon
Pris Llawn / Full Price
£18
Form/up small icon icon Form/down small icon icon
Available Tocynnau: 164
The "Pris Llawn / Full Price" ticket is sold out. You can try another ticket or another date.
Form/ticket icon icon
O dan 18 / Under 18's
£12
Form/up small icon icon Form/down small icon icon
Available Tocynnau: 164
The "O dan 18 / Under 18's" ticket is sold out. You can try another ticket or another date.
Cyfanswm: 0
Tocynnau
pris
£18.00
Dyddiad
Tach 27 2026
Amser
7:30 pm