MARIA TÜRME @ NEUADD Y FARCHNAD, CAERNARFON
Mae hi’n ôl!! Ar ôl ei gig ysblennydd Globalheads yn gynnar yn 2023, mae’r anhygoel Maria Türme yn dychwelyd i’n cael ni i symud yn Neuadd y Farchnad.
Mae Maria Türme yn dod o Sbaen, ac yn un o’r DJs mwyaf adnabyddus Cerddoriaeth Balcanaidd a Cherdd Byd yno.Oddi ar gefn ei sioe yng Nghaernarfon y llynedd, aeth Maria ymlaen i chwarae Boomtown Fair, The Secret Garden Party, Beat Herder, a Rototom Soundsplash (Benicassim, Sbaen) ymhlith eraill.
Wedi’i hysbrydoli gan ei chariad at rythmau rhyngwladol, mae arddull Maria yn amrywio o reggae i hip-hop, DNB i Cumbia, i Ska, ghetto Funk a Electro Swing. Trwy gyfuno’r holl ddylanwadau hyn mae hi’n creu awyrgylch a thaith fythgofiadwy sy’n cyffroi o gychwn hyd ddiwedd y noson. Mae hi wedi cefnogi aristiaid fel Balkan Beat Box ac actau fel Lazarus Soundsystem, Caravan Disco ac ati.
Mae gan Ogledd Cymru le arbennig yng nghalon Maria, ac mae hi’n gyffrous iawn i ddychwelyd i chwarae set o bîts byd-eang ffynci yng nghanol Caernarfon.
Hefyd yn chwarae bydd DJ Pheeva – aelod hirsefydlog o sîn tanddaearol gogledd Cymru. Ar ôl mynychu rhai o bartïon mwyaf Cymru wledig prynodd Pheeva decks dysgodd ei hun i gymysgu. Symudodd ymlaen yn gyflym i chwarae mewn digwyddiadau lleol ac ymhellach i ffwrdd. Dechreuodd Vinyl Vagabonds i gynnal ei digwyddiadau ei hun a gweithdai DJ i rymuso mwy o fenywod i droelli. Mae ei chyfnodau preswyl yn tyfu ac mae ei gyrfa DJ wedi mynd â hi i glybiau ledled y DU ac Ewrop.
Mae hi’n adnabyddus am chwarae setiau dnb a jyngl ond bydd hi yn curadu set arbennigi o’I hoff tiwns reggae I ni yn Globalheads
Gyda presylwyr Globalheads DJ fflyffilyfbybl (Mae Martin 9Bach i ffwrdd am yr un yma)
£10 tan Dydd Llun 4ydd o Fawrth
£12 tan Dydd Gwener 22ain o Fawrth
£15 ar y drŵs
pris
- £12.00
Dyddiad
- Maw 22 2024
- Expired!
Amser
- 7:30 pm