MAWR Y RHAI BYCHAIN 2024: NOS WENER – Catrin Finch Aoife Ni Bhriain (Cymru / Éire), Nimkii and the Niniis (Anishinaabe)
Tocyn ar gyfer y perfformiadau nos Wener fel rhan o Mawr y Rhai Bychain 2024:
Catrin Finch Aoife Ni Bhriain (Cymru / Éire)
Mae Aoife Ní Bhriain, sy’n hanu o Ddulyn, yn un o ffidlwyr traddodiadol mwyaf blaenllaw Iwerddon ac yn feiolinydd clasurol o statws rhyngwladol sy’n feistrolgar ym maes cerddoriaeth glasurol a cherddoriaeth ei threftadaeth draddodiadol Wyddelig.
Ar draws Môr Iwerddon, ar arfordir gorllewinol Cymru, mae’r delynores Catrin Finch hefyd wedi llunio gyrfa glasurol drawiadol ac wedi mentro i dir cerddorol newydd, yn fwyaf nodedig trwy ei chydweithrediadau rhyngwladol gwobrwyedig.
Nimkii and the Niniis (Anishinaabe)
Sefydlwyd Nimkii and the Niniis yn ystod y pandemig yn 2020, fel modd i gefnogi storïwyr Brodorol ac i helpu i gadw’r ieithoedd yn fyw drwy gerddoriaeth.
Mae’r band, dan arweiniad Nimkii Osawamick, yn perfformio drymio traddodiadol a chanu corawl, gan ddod â theimlad da hwnnw i’r byd.
pris
- £20.00
Dyddiad
- Hyd 18 2024
Amser
- 7:00 pm - 11:00 pm