Mawr Y Rhai Bychain 2025: Jeremy Dutcher, Pys Melyn

Mae JEREMY DUTCHER yn denor clasurol, yn ymgyrchydd ac yn aelod o Neqotkuk (Cenedl Gyntaf Tobique) yn Nwyrain Canada. Wedi’i gysegru i adfywio ieithoedd, roedd albwm cyntaf Jeremy, Wolastoqiyik Lintuwakonawa, wedi’w ysbrydoli gan recordiadau archif canrif oed o’i hynafiaid, gan eu troi’n gyfansoddiadau cydweithredol ar y piano. Wedi’i ganu’n gyfan gwbl yn Wolastoqey, ei famiaith sydd mewn perygl, aeth ymlaen i ennill Gwobr Gerddoriaeth Polaris 2018 ac yn arwain at gydweithrediadau ag artistiaid eiconig fel Yo-Yo Ma a Leslie Feist. Ennillodd Gwobr Gerddoriaeth Polaris 2024 i’w ail albwm Motewolonuwok ᒣᑌᐧᐁᓓᓄᐧᐁᒃ, gan wneud Jeremy y cyntaf erioed i ennill ddwywaith. Mae cerddoriaeth Jeremy yn mynd y tu hwnt i ffiniau: yn chwareus heb ymddiheuriad wrth ymgorffori dylanwadau clasurol a jazz, yn llawn parch at ganeuon traddodiadol ei gartref, ac yn llawn brys gwrthsafiad modern. Mae pobl yn ei holi’n rheolaidd am ei safbwyntiau ar queerness, Indigeneity, adfywio iaith, a ffasiwn.

Mae Mawr y Rhai Bychain a Neuadd Ogwen yn teimlo’nr fraint o wahodd Jeremy a’i fand byw o Northern Turtle Island (Canada) i rannu eu cerddoriaeth a’u diwylliant â’n cymuned. Sefydlwyd Mawr y Rhai Bychain yn 2022 gyda’r nod o agor deialog rhwng y gymuned Gymraeg a phobol, ieithoedd a diwylliannau brodorol eraill.

Cefnogaeth acwstic gan Pys Melyn a sesiwn Holi ac Ateb yn y prynhawn am 5yp. Mae mynediad am ddim i’r sesiwn Holi ac Ateb.

Digwyddiad eistedd.

pris

£20.00

Dyddiad

Medi 20 2025
Expired!

Amser

7:30 pm

Organizer

Neuadd Ogwen
Neuadd Ogwen
Phone
01248 208850
E-bost
post@neuaddogwen.com