MAWR Y RHAI BYCHAIN: KÍLA & MANTACH
Mae Kíla wedi bod ar flaen y gad ym maes ‘Trad Fusion’ ers iddynt ffurfio ym 1987. Ers hynny, maent wedi rhyddhau 21 o albymau, wedi cyd-ysgrifennu cerddoriaeth ar gyfer tair ffilm animeiddio a gafodd eu henwebu am wobr Oscar, ac wedi perfformio mewn 35 o wledydd, gan gynnwys rhai o ŵyliau mwyaf y byd. Maent hefyd wedi cydweithio ag artistiaid, dawnswyr ac artistiaid syrcas, ac wedi perfformio gyda chantorion gwerin, cantorion opera, corau, pedwarawdau clasurol, drymwyr samba, Affricanaidd ac Indiaidd, ac yn ddiweddarach, ensemble pres o wyth aelod y recordiwyd eu halbwm diweddaraf, Raise the Road, gyda nhw.
Mae gan Mawr Y Rhai Bychain a Neuadd Ogwen y fraint o wahodd Kíla o Iwerddon (Éire) i rannu eu cerddoriaeth a’u diwylliant â’n cymuned. Sefydlwyd Mawr y Rhai Bychain yn 2022 i agor deialog rhwng y gymuned Gymreig a phobloedd, ieithoedd a diwylliannau brodorol eraill.
Bydd band gwerin Cymraeg newydd, ac enillwyr Brwydr y Bandiau Gwerin yr Eisteddfod Genedlaethol 2026, Mantach, yn cefnogi. Yn y prynhawn byddwn hefyd yn cynnal sesiwn holi-ac-ateb rhad ac am ddim gyda Kíla am 13:30, ar y thema Ymgyrch Iaith yn Iwerddon (Gníomhaíochas teanga in Éirinn).