MELYS
‘Wondrous, Welsh popsters…. fel Dusty Springfield gyda chefnogaeth St Etienne..’
THE GUARDIAN
Ffurfiodd y band Indie Cymraeg Melys ym mhentref Eryri Betws-y-Coed ar ddiwedd y 90au ac arwyddo’n gyflym i label Gymreig, ‘Ankst’ (Super Furry Animals, Gorky’s Zygotic Mynci et al.)
Y hwythau’n cael eu chwarae’n aml ar Radio One gan Mark Radcliffe, Steve Lamacq, Mark Riley a John Peel, aeth y band ymlaen arwyddo cytundeb sylweddol, agor stiwdio a label eu hunain yn ogystal â rhyddhau 4 albwm stiwdio, ac albwm arbennig (a ryddhawyd yn Ewrop ac UDA)
Melys oedd enillwyr y wobr gerddoriaeth Gymraeg am yr act byw orau yn 2002, ac roedden nhw’n ymysg ffefrynnau’r DJ radio chwedlonol John Peel, gan recordio 11 sesiwn iddo. Fe wnaethon nhw hefyd ennill ‘festive 50’ Peel gyda’u cân ‘Chinese Whispers’ yn 2001.
Ar ôl seibiant hir lle agorodd Andrea a Paul ambell fwyty a daeth Gary yn feddyg academaidd, mae’r band wedi bod yn brysur eto, yn teithio’r DU gyda The Wedding Present ac maent newydd ryddhau albwm BBC sesiynau (Vol.1) yn cynnwys sesiynau gan Huw Stephens, John Peel ac Adam Walton. Ar hyn o bryd mae Melys yn y stiwdio ar Ynys Môn yn cymysgu albwm newydd gyda’u hen ffrind a chynhyrchydd Gorwel Owen (sydd wedi gweithio gyda’r Super Furries, Gorkys, Gwenno ac ati). Bydd eu sengl newydd ‘Santa Cruz’ yn cael ei ryddhau ddechrau mis Rhagfyr gydag albwm i ddilyn yng ngwanwyn 2025.
pris
- £12.00
Dyddiad
- Maw 01 2025
Amser
- 7:30 pm