MIRI MEINIR: VRÏ, ANGHARAD A PATRICK & MWY
Ymunwch â ni am noson fywiog a chalonogol o gerddoriaeth a dawns werin Gymreig, wrth i gyfeillion Meinir Siencyn ddod ynghyd i godi arian tuag at ei thriniaeth ar gyfer canser cam 4 yn yr Almaen. Bydd y noson yn cynnwys rhaglen gyfoethog ac amrywiol gyda pherfformiadau gan VRï, Angharad Jenkins & Patrick Rimes, Dawnswyr Delyn, Twmpdaith, Hedyn, Paallam Arts, Cadi Glwys, Elin a Carys, Worldwide Welshman a Chlocswyr Madog. Mae croeso cynnes i bawb ymuno â’r dathliad hwn o ddiwylliant gwerin Cymru, gan ddod â phobl ynghyd drwy gerddoriaeth a dawns i gefnogi Meinir ar ei thaith driniaeth. Dewch i fwynhau noson arbennig.
Bydd y digwyddiad yma yn gymysged o seddi a sefyll.