MR, Derroro & Orinj @ Neuadd y Farchnad, Caernarfon
MR (Mark Roberts)
Ar ôl cyflwyno ei hun yn canu a chwarae gitâr un o’r bandiau Cymraeg gorau erioed, Y Cyrff, ar ddiwedd y 1980au – y 90au cynnar, aeth Mark Roberts ymlaen i ffurfio Catatonia, a ryddhaodd gyfres o albymau llwyddianus a senglau yn Top Ten y siartiau a sefydlodd nhw fel un o fandiau Cymraeg mwyaf eiconig y 90au hwyr.
Yn y ganrif newydd, parhaodd Mark i greu cerddoriaeth gyda Sherbet Antlers, Y Ffyrc a The Earth. Rhyddhawyd ei albwm newydd ‘Misses’ ar y 9fed o Fehefin.
Derroro
Mae’r band Cymraeg enwog Derrero yn parhau â gyrfa parhaus 26 mlynedd gydag ymddangosiad prin i gefnogi eu halbwm diweddarach ‘Curvy Lines’.
Cyfarfu aelodau Derrero yng Ngholeg Celf Falmouth yn 1993: ar ôl astudiaethau, datblygoedd nhw yn Brighton cyn ymgartrefu yng Nghasnewydd, Cymru. Maen nhw wedi rhyddhau 5 albwm i canmoliaeth fawr ac wedi teithio gyda phobl fel Super Furry Animals, Catatonia, Sebadoh a Granddaddy, wedi cydweithio ar y ffilm ‘Beautiful Mistake’ gyda John Cale a recordio tair sesiwn i John Peel.
Gydag agwedd DIY cadarn i greu cerddoriaeth mae Derrero yn fand hyderus sy’n parhau i fod heb ofn nofio yn erbyn y llanw a chynhyrchu a hunan-ryddhau cerddoriaeth ddigyfaddawd anghyffredin.
Orinj
Wedi’i eni yn Bethesda, mae Orinj wedi adeiladu sylfaen o gefnogwyr cryf ynng Nghogledd Cymru a thros y ffin i Lerpwl a Manceinion. Rhyddhawyd eu halbwm cyntaf ‘How Do You See The World?’ yn 2021 a chânt eu cymeradwyo’n frwd gan David Fielding o The Chameleons.
pris
- £10.00
Dyddiad
- Gorff 15 2023
- Expired!