Nora Brown gyda Stephanie Coleman

Nora Brown yw’r “seren ifanc ddisgleiriaf ym myd cerddoriaeth draddodiadol” (Songlines), yn chwarae cerddoriaeth draddodiadol sy’n canolbwyntio ar banjo a gitâr de’r Appalachia, a gyda’i llais yn datgelu ei “syched am adrodd straeon” (NPR). Mae’n cloddio’n ddwfn: “a reverent nod to deeply-rooted ole-time traditions, and an exhibit of sonic heirlooms carefully amended to meet a modern moment with vintage elegance.” (American Songwriter). Disgrifiodd The New Yorker ei halbwm unigol diweddaraf Long Time To Be Gone fel “a disarming collection of traditional laments and exquisite banjo instrumentals.”

Bydd Nora’n perfformio mewn deuawd gyda’r feiolinydd wobrwyedig Stephanie Coleman. Daethant at ei gilydd gyntaf trwy gymuned gerddoriaeth draddodiadol glòs Brooklyn, ac mae gan Nora Brown a Stephanie Coleman bartneriaeth gerddorol gyfoethog sy’n herio’r bwlch oedran o 20 mlynedd rhyngddynt. Mae Stephanie yn feistr feiolinydd traddodiadol, wedi recordio a theithio’n rhyngwladol dros y ddau ddegawd diwethaf gyda cherddorion aml-enwog gan gynnwys y band llinynnol benywaidd arloesol Uncle Earl.

ARCHEBU TOCYNNAU

Form/ticket icon icon
Nora Brown & Stephanie Coleman (sefyll/ standing)
£18
Form/up small icon icon Form/down small icon icon
Available Tocynnau: 245
The "Nora Brown & Stephanie Coleman (sefyll/ standing)" ticket is sold out. You can try another ticket or another date.
Form/ticket icon icon
Nora Brown & Stephanie Coleman (eistedd/ seated)
£18
Form/up small icon icon Form/down small icon icon
Available Tocynnau: 38
The "Nora Brown & Stephanie Coleman (eistedd/ seated)" ticket is sold out. You can try another ticket or another date.
TOCYNNAU

pris

£18.00

Dyddiad

Mai 20 2026

Amser

7:30 pm

Organizer

Neuadd Ogwen
Neuadd Ogwen
Phone
01248 208850
E-bost
post@neuaddogwen.com