Plaid Cymru Dyffryn Ogwen yn cyflwyno: VRï + Angharad Jenkins

Noson arbennig o gerddoriaeth Gymreig o’r radd flaenaf yng nghalon Dyffryn Ogwen. Bydd elw’r noson yn cefnogi ymgyrch Plaid Cymru Bangor, Conwy a Môn.

VRï yw tri cherddor o galon capeli Cymru sy’n rhoi bywyd newydd i gerddoriaeth draddodiadol y genedl. Gyda gwaith ffidl gwefreiddiol, cytgordau cyfoethog, a sain sy’n cyfuno cerddoriaeth siambr ag egni sesiwn dafarn, mae VRï wedi creu “dirwedd sain unigryw a rhyfeddol” (Songlines ★★★★★). Mae eu caneuon yn cysylltu’r gorffennol â’r presennol – straeon o frwydr, llawenydd ac ymdeimlad o berthyn sy’n taro deuddeg hyd heddiw.

Angharad Jenkins yw cantores, cyfansoddwraig a ffidlwraig ddwyieithog o Abertawe, ac un o brif leisiau cerddoriaeth werin Cymru. Gyda’i chydweithiwr ers blynyddoedd Patrick Rimes, mae hi yn ail-lunio’r traddodiad Cymreig drwy dehongliadau arloesol. Mae eu prosiect diweddaraf, amrwd, yn dal egni crai a daearol dwy ffidil mewn deialog fyw, gan gyfuno cytgordau cyfoethog, caneuon bythol fel Myfanwy ac Calon Lân, ac cyfansoddiadau newydd wedi’u hysbrydoli gan dreftadaeth gerddorol Cymru.

Tocynnau safonol yn £15

Tocynnau cyfraniad ychwanegol yn £20

pris

£15.00

Dyddiad

Ion 29 2026
Expired!

Amser

7:30 pm

Organizer

Neuadd Ogwen
Neuadd Ogwen
Phone
01248 208850
E-bost
post@neuaddogwen.com