Puddles Pity Party
Mae Puddles Pity Party yn ôl ar gyfer taith gyflym o’r DU ar ôl gwerthu allan llynedd yn Soho Theatre! Dim ond ychydig o sioeau y mae’n eu gwneud yn y DU cyn iddo ddychwelyd ar daith 80-dyddiad gyda Weird Al Yankovic. Gallwch disgwyl caneuon o’i albwm newydd, ynghyd â nifer o’i glasuron annwyl.
Cafodd Puddles sylw yn ddiweddar ar sioe deithiol Eric Idle, yn canu deuawd gydag e o “The Galaxy Song.” Dyma’r ail waith iddynt gydweithio. Roedd y cyntaf yn 2022 pan wnaethant berfformio deuawd yn Homeward Bound: A Grammy Salute to the Songs of Paul Simon a ffilmiwyd ar gyfer CBS TV. Hefyd yn 2022 cafodd ei lais sylw wrth iddo cael ei gynnwys mewn hysbyseb Nadolig arbennig John Lewis gyda dehongliad o “All the Small Things” a recordiwyd gyda Postmodern Jukebox. Roedd Puddles yn yr wyth olaf ar Dymor 12 America’s Got Talent, ac ymddangosodd ar cyfres 2020 AGT The Champions. Yn 2024, aeth ar daith gyda Primus, gan fwynhau amser llwyfan gyda’r band yn canu cover o “Holy Diver” gan Ronnie James Dio, sydd wedi mynd yn firaol ar YouTube ers hynny.
pris
- £22.00
Dyddiad
- Mai 14 2025
Amser
- 7:00 pm