PYS MELYN, KIM HON, PASTA HULL
Pys Melyn yw Ceiri, Sion, Owain, Owain a Jac o Ben Llŷn. Dechreuodd Pys Melyn ryddhau senglau yn 2018 ac yn 2019 ffurfwyd Recordiau Ski-Whiff.
Yn dilyn ryddhau “Bywyd Llonydd”, (albwm cyntaf y band yn 2021, a dynnodd ar amrywiaeth o ddylanwadau byd-eang) enwebwyd yr albwm ar gyfer Gwobr Gerddoriaeth Gymreig.
Pan ryddhawyd eu hail albwm ‘Bolmynydd’ ym mis Awst 2023, sy’n tynnu ar ystod mwy traddodiadol o ddylanwadau’r 60au/70au aeth y band ar daith o amgylch y DU a Llydaw, gan chwarae mewn lleoliadau fel The Garage yn Llundain a Rough Trade Bryste.
Ar ddechrau 2024 recordiodd Pys Melyn sesiwn i BBC6 ar gyfer Mark Riley a hefyd chware Gŵyl y Dyn Gwyrdd, The Great Escape, Boia ac Ara Deg.
Cefnogaeth KIM HON, PASTA HULL
pris
- £10.00
Dyddiad
- Hyd 25 2024
Amser
- 7:30 pm