PYS MELYN + PASTA HULL

Mae Neuadd Ogwen – mewn cydweithrediad ag Anthem – yn falch o groesawu’r anhygoel
Pys Melyn yn ôl i Fethesda, gyda chefnogaeth gan y band psychedelic Pasta Hull.

Mae’r ddau fand wedi hen arfer perfformio gyda’i gilydd ar hyd a lled Cymru ac mae cael y ddau fand cyffrous ar yr un llwyfan wastad yn brofiad i’w gofio! Yn sicr, mae’r blynyddoedd diwethaf wedi profi yn rhai llwyddiannus dros ben i Pys Melyn, gyda’i halbym ‘Bolmynydd’, a ryddhawyd yn 2023, yn derbyn canmoliaeth eang ac ‘Fel Efeilliaid’ yn dilyn flwyddyn yn ddiweddarach. Ar ddechrau 2024 recordiodd Pys Melyn sesiwn i BBC6 ar gyfer Mark Riley ac maent hefyd wedi perfformio mewn gwyliau blaenllaw megis Gŵyl y Dyn Gwyrdd, The Great Escape, Boia ac Ara Deg.

Mae’r gig hwn wedi’i drefnu fel rhan o brosiect Curadwyr Ifanc.

Tocynnau oedolion – £12
Tocynnau o dan 18 – £6

pris

£12.00

Dyddiad

Mai 16 2025
Expired!

Amser

7:00 pm - 11:00 pm

Organizer

Neuadd Ogwen
Neuadd Ogwen
Phone
01248 208850
E-bost
post@neuaddogwen.com