RIO 18
Gyda tharddiad ym Mrasil a’i ddatblygiad yng Nghymru, mae Rio 18 yn gydweithrediad rhyngwladol a ffurfiwyd gan y cyfansoddwr caneuon, canwr, aml-offerynnwr a chynhyrchydd Carwyn Ellis ar ôl ei ymweliad cyntaf â De America yn 2018 fel aelod teithiol o Pretenders. Ar ôl tri albwm fel Carwyn Ellis & Rio 18, sydd a alawon trofannol nodweddiadol sydd yn cael eu canu yn Gymraeg, mae Carwyn wedi camu’n ôl o’r meic i ganolbwyntio ar arddangos aelodau eraill y grŵp, ochr yn ochr â chydweithrediadau gyda rhai o’r ffrindiau maen nhw wedi’u gwneud ar hyd y ffordd. Mae “Radio Chévere”, sef albwm newydd Rio 18 a’u llu o westeion yn annod i’w gategoreiddio yn syml ond sydd a dylanwadau “Latin” a Cerddoriaeth Drofannol. Gyda llais y DJ gwadd Coco Maria fel ein tywysydd, mae “Radio Chévere” yn mynd â ni ar daith trwy fyrdd o arddulliau a straeon cerddorol gyda dylanwadau o Uruguay, Brasil, Venezuela, Colombia, Mecsico, California, Efrog Newydd a chyrchfannau sonig di-ri eraill trwy steiliau Samba, Salsa, Funk, Cumbia, Joropo, Disgo, Seicedelig ac Electronig. Mae Rio 18 yn gasgliad rhyngwladol gyda gwreiddiau Celtaidd a “Latin” a chariad yn greiddiol iddynt.
pris
- £14.00
Dyddiad
- Tach 08 2024
- Expired!
Amser
- 7:30 pm