SESIYNAU GWERIN
Da chi’n chwarae offeryn ond ddim yn teimlo digon hyderus i ymuno a sessiwn werin? Byddwch chi’n mwynhau hwn os da chi’n gwybod beth yw’r nodau i gyd ar eich offeryn ac yn gallu chwarae rhai alawon yn barod. Byddwn yn dysgu tiwns yn hytrach na chordiau. Ebostiwch ni am ddolen Google Drive efo’r holl alawon gyda recordiadau a cherddoriaeth.
Dewch draw i Neuadd Ogwen i ddysgu alawon gwerin Cymreig mewn awyrgylch cyfeillgar a chefnogol. Dim problem os na allwch ddarllen cerddoriaeth – byddwn yn dysgu o’r glust – a bydd cerddoriaeth a linciau i Youtube ar gael i chi ymarfer o adre.
Dechrau nos Fercher 26ain o Fawrth 7 – 8.30yh (am 6 wythnos) – £6 y sesiwn
Mawrth 26 / Ebrill 2, 9, 30 / Mai 7, 14
huw@neuaddogwen.com

pris
- £24.00
Dyddiad
- Ebr 30 2025
Amser
- 7:00 pm - 8:30 pm