SOULS OF MISCHIEF

Mae Souls, ynghyd â’u criw Hieroglyphics, yn cael eu hystyried yn rhai o’r crefftwyr geiriau mwyaf medrus y byd rap ers eu dechreuad hyd heddiw. Torrodd criw Hiero gonfensiynau Hip Hop gyda llinellau personol ac emosiynol yn hytrach na rap gangster yn unig.

Fe’u dyfynnir fel dylanwad enfawr gan rhai o artistiaid fwyaf enwog eu maes – o A Tribe Called Quest a The Roots, i Andre 3000, Kanye West, De La Soul, Wu-Tang, Mos Def ac eraill. Mae’r brodorion o California bellach yn cael eu hadnabod fel arloeswyr Hip Hop annibynnol.

Mae ‘93 ‘til Infinity’ gan Souls Of Mischief yn parhau i fod yn glasur Hip Hop sydd ymhlith y mwyaf parchus a chydnabyddedig erioed, gan ymddangos dro ar ôl tro mewn diwylliant poblogaidd.

 

‘This is 93 ‘til infinity, you know, so it’s markin’ the time but also movin’ beyond the time, you feel me?’
– Yasiin Bey (Mos Def)

pris

£25.00

Dyddiad

Awst 09 2025
Expired!

Amser

7:30 pm

Organizer

Neuadd Ogwen
Neuadd Ogwen
Phone
01248 208850
E-bost
post@neuaddogwen.com