THE FURROW COLLECTIVE
Yn 2025, bydd y grŵp o Loegr a’r Alban yn dathlu 10 mlynedd ers rhyddhau eu halbwm cyntaf. Mae’r Furrow Collective wedi ennill sawl wobr am ei cherddoriaeth dros y blynyddoedd, a byddwn yn perfformio detholiad o ganeuon o’u degawd o gydweithio, yn ogystal â ffefrynnau o’u hôl-gatalog; bydd y band yn rhannu caneuon o’u halbwm newydd, We Know by the Moon, albwm thematig wedi’i ysbrydoli gan y lleuad ac wedi’i leoli ar ôl iddi nosi:
“The moon, the stars, darkness and night are threads woven through these songs. Songs to be listened to after dark, by candlelight, firelight, or under the steady light of our constant lunar companion.” The Furrow Collective
Mae The Furrow Collective yn cynnwys pedwar perfformiwr sydd illau’n adnabyddus yn eu rhinwedd eu hunain: Lucy Farrell (fiola, llais a llif), Rachel Newton (telyn, ffidil, llais), Emily Portman (banjo, consertina, llais), ac Alasdair Roberts (gitâr, llais). Ffurfiwyd y grŵp yn 2013 drwy gariad cyffredin at ganeuon a baledi traddodiadol o Loegr, yr Alban ac ymhellach; ynghyd â dull agored a greddfol o gydweithio.
Er mwyn cydnabod eu dull arloesol, enillodd The Furrow Collective deitl Grŵp Gorau yng Ngwobrau Cerddoriaeth Werin BBC Radio 2 yn 2017, yn fuan ar ôl rhyddhau eu hail albwm Wild Hog (hefyd ar Hudson Records) ddiwedd 2016. We Know by the Moon yw eu pedwerydd albwm, yn dilyn Fathoms (2018), ac fe’i hysbrydolwyd yn wreiddiol gan eu EP gaeafol The Longest Night yn 2022.
Mae The Furrow Collective yn teithio’n helaeth ledled y DU ac Ewrop, gan swyno cynulleidfaoedd gyda’u dull unigryw a hudolus o ddwyn caneuon traddodiadol yn fyw.
pris
- £18.00
Dyddiad
- Rhag 21 2025
Amser
- 7:00 pm