The Webb Sisters & John Jorgenson Trio

Bydd John Jorgenson – sy’n enillydd Grammy – yn ymuno â’r Webb Sisters yma am berfformiad arbennig.

Mae Jorgenson yn gyfarwydd â Gogledd Cymru ac yntau wedi perfformio yma ar sawl achlysur dros y blynyddoedd, gan gynnwys gyda’r Hellecasters, Bluegrass a’r Gypsy Jazz Quintet.

Y tro hwn, fe fydd yn perfformio gyda’i ffrindiau oes Charley a Hattie Webb, sydd newydd orffen taith o amgylch y byd gyda David Gilmour.

Mae’r Webb Sisters wedi teithio a recordio gyda Leonard Cohen, Sting a Tom Petty dros y blynyddoedd, gan ddiddanu cynulleidfaoedd gyda’u harmonïau hudolus, a’i sgiliau ar y delyn, gitâr a mandolin.

Peidiwch â methu’r cyfle i glywed y tri yn perfformio gyda’i gilydd unwaith eto!

ARCHEBU TOCYNNAU

Form/ticket icon icon
The Webb Sisters + John Jorgenson Trio
£15
Form/up small icon icon Form/down small icon icon
Available Tocynnau: 162
The "The Webb Sisters + John Jorgenson Trio" ticket is sold out. You can try another ticket or another date.
TOCYNNAU

pris

£15.00

Dyddiad

Ebr 19 2025

Amser

7:30 pm

Organizer

Neuadd Ogwen
Neuadd Ogwen
Phone
01248 208850
E-bost
post@neuaddogwen.com