Parti Cynhesu Tonnau: Zawose Queens & DJ’s Tonnau

Mae Gŵyl Tonnau a Neuadd Ogwen yn falch o gyflwyno The Zawose Queens ar gyfer parti Cynhesu’r wyl.

Mae ysbryd a thân yng ngherddoriaeth The Zawose Queens. Ceir dirgryniadau’r hynafiaid yn dod drwodd ar offerynnau traddodiadol — y ffidil chizeze sy’n esgyn, yr illimba (piano bawd) sy’n suo, a drymiau ngoma sy’n clecian ac yn taranu — a lleisiau sy’n mynd yn ddwfn, yn uchel ac ymhell y tu hwnt. Ceir cysylltiad â natur, â seremoni a defod, yn eu cyfuniad wedi’i ysbrydoli gan ddawns, eu cymysgedd o’r organig, y cytgordol a’r electronig cyfoes. Ceir geiriau sy’n adrodd, yn eu hiaith frodorol Kigogo, am angerdd dros gerddoriaeth, rhyfeddodau bywyd. Am falchder yn eu hamgylchedd, yn eu traddodiad. Yn eu gwreiddiau Dwyrain Affrica.

pris
£20.00
Dyddiad
Meh 20 2026
Expired!
Amser
7:30 pm
Organizer
Neuadd Ogwen
Neuadd Ogwen
Phone 01248 208850
E-bost post@neuaddogwen.com