Trysorau Tair Merch Hardd Efa: Adrodd Storïau gyda Shonaleigh
Ymunwch â’r storïwraig byd-enwog Shonaleigh am noson o straeon ym Methesda.
Druts’yla yw Shonaleigh, ac mae’n parhau â thraddodiad llafar byw di-dor sy’n cael ei drosglwyddo o famgu i wyres.
Mae hi’n gwybod tua 4,000 o straeon y gall eu cofio ar gais, gan ddefnyddio’r grefft goll o ‘straeon o fewn straeon’.
Mae Tair Merch Hardd Efa yn perthyn i Gylchred Hillel, sef y cyntaf o ddeuddeg cylch epig, cydgysylltiedig o straeon a drosglwyddwyd trwy genedlaethau o fenywod Iddewig.
Cafodd Efa, ail wraig Adda, fag o drysor pan gawsant eu hebrwng allan o baradwys.
Mewn paentiadau canoloesol mae’r trysor hwnnw’n cael ei ddangos fel aur neu arian, gemau neu berlau… ond mae’r hen straeon, straeon o ddwy fil o flynyddoedd yn ôl, yn dweud wrthym ei fod yn rhywbeth mwy gwerthfawr fyth.
Yr hyn a ddaeth Efa allan o baradwys oedd hyn: 547 o berlysiau, hadau, gwreiddiau, planhigion ac aeron, meddyginiaeth i wella holl afiechydon dynolryw.
Trosglwyddwyd y rhain i’w thair merch hardd, a oedd yn cadw’n fyw ac yn trosglwyddo’r meddyginiaethau hyn i’w disgynyddion.
Dyma gyfle na ellir ei golli i unrhyw un sy’n ymddiddori mewn straeon neu mewn diwylliannau llafar a cholledig ddod i glywed y chwedlau hynafol hyn yn y goleuni ac ar y tafod, straeon sydd heb eu hadrodd ers dwy genhedlaeth ac sydd prin wedi’u crybwyll ers degawdau.
Yn addas ar gyfer 14+. Bydd y digwyddiad hwn yn Saesneg.
pris
- £12.50
Dyddiad
- Hyd 22 2022
- Expired!
Amser
- 7:30 pm - 10:00 pm