UN NOS OLA LEUAD Theatr Bara Caws

Ers iddi gael ei chyhoeddi yn 1961 mae Un Nos Ola Leuad wedi cydio yn
nychymyg cenedlaethau o ddarllenwyr Cymraeg ac mae’n nofel sy’n parhau i
ennyn ymateb ysgubol yn rheolaidd.
Bu i Bara Caws deithio’r addasiad llwyfan hwn gyntaf yn 2011 ac yn falch
iawn o gael gwneud hynny eto eleni. Betsan Llwyd sy’n gyfrifol am y sgript
sy’n seiliedig ar waith gwreiddiol gan Maureen Rhys a John Ogwen, ac mae’r fersiwn hon
wedi ei chynnwys ar gwricwlwm lefel ‘A’ Drama CBAC ar hyn o bryd.
Gwaith ensemble fydd y cyflwyniad gyda’r cast yn cynnwys
Owen Alun, Owen Arwyn, Celyn Cartwright, Siôn Emyr, Cedron Siôn a Manon
Wilkinson.


pris

£12.00

Dyddiad

Hyd 18 2022
Expired!

Amser

7:00 pm