Ymarfer Byw (Yn Fyw) hefo Dafydd Owain

Mae Dafydd Owain yn artist o Gaernarfon sydd yn prysur sefydlu ei hun fel un o leisiau cerddorol mwyaf cyffrous Cymru.

Rhyddhaodd ei albwm cyntaf fel artist solo yn 2023, gan ennill enwebiadau ar gyfer Y Wobr Gerddoriaeth Gymreig yn ogystal ag Albym Cymraeg y Flwyddyn. Fis Hydref 2025, daeth ei ail albwm, ‘Ymarfer Byw’, allan a bu iddi dderbyn clod aruthrol gyda nifer yn ei disgrifio fel un o’r albyms gorau yn 2025 yn ogystal â chael ei disgrifio fel “un o’r albymau pwysicaf i ddod allan o Gymru yn y degawd hwn” gan Nation.Cymru.

Mae ‘Ymarfer Byw (Yn Fyw)’ yn berfformiad emosiynol ac ingol o albym diweddaraf Dafydd yn ei gyfanrwydd. Dyma berfformiad sydd wedi ei ddisgrifio gan gynulleidfaoedd fel un o’r perfformiadau mwyaf pwerus iddyn nhw ei weld ers blynyddoedd lawer wrth i’r albym ddod yn fyw mewn dathliad pwerus o’n meddyliau tywyllaf.

Noder: Bydd y perfformiad yn cyffwrdd ar themâu emosiynol-ddifrifol a dwys ar brydiau. Er mai cyffyrddiadau amwys fydd yn cael eu cyflwyno ar y cyfan, mae’n bosib y bydd rhai elfennau o’r perfformiad yn anaddas i gynulleidfaoedd iau neu unigolion â sensitifrwydd i’r themâu hyn.

Digwyddiad eistedd yw hwn.

pris

£15.00

Dyddiad

Chwef 27 2026
Expired!

Amser

7:30 pm

Organizer

Neuadd Ogwen
Neuadd Ogwen
Phone
01248 208850
E-bost
post@neuaddogwen.com