YOUTH & ALAN MCGEE (SET DJ) @NEUADD Y FARCHNAD, CAERNARFON
MARTIN “YOUTH” GLOVER + ALAN MCGEE
Gyda DJ Fflyffilyfbybl & Martin 9Bach
Mae GlobalHeads yn noson cerddoriaeth byd fisol newydd sy’n dod â cherddoriaeth o bedwar ban byd i Neuadd y Farchnad Caernarfon. Cefnogir prif artistaid cyffrous gan DJs GlobalHeads.
Yn dilyn parti lawnsi hwyliog yng nghwmni Andy Kershaw, bydd ein digwyddiad ym mis Mawrth yn croesawu’r DJ a cherddor byd enwog YOUTH sydd yn dod i Gaernarfon ar gyfer ei sioe gyntaf erioed yng Ngogledd Cymru!
Yn cyn frodor o Ynys Môn, mae YOUTH yn gerddor a chynhyrchydd byd-enwog a dylanwadol gyda CV sy’n cynnwys rhywfaint o’r cerddoriaeth mwyaf adnabyddus dros y 40 mlynedd diwethaf.
Mae’n enwog am fod yn guriad calon y band ôl-bync Killing Joke, ysgrifenodd “Little Fluffy Clouds” gyda The Orb, cyfranodd i albymau gan Kate Bush a Pink Floyd. Cynhyrchodd “Bittersweet Symphony” gan The Verve ynghyd â llawer o ganeuon clasurol eraill gan Crowded House, U2 a Toots and the Maytals. Mae hefyd wedi rhyddhau tri albwm fel The Fireman, efo Paul McCartney gan greu’r gerddoriaeth fwyaf arbrofol y mae Paul wedi’i chynhyrchu ers The Beatles.
Wedi’i ysbrydoli gan Punk, Reggae, Funk, cerdd dawns a rhythmau rhyngwladol, mae Youth wedi creu ei lwybr ei hun i greu cerddoriaeth ddawns sy’n arloesol ac yn ysbrydoledig, a’r mis hwn mae’n dod â hi i Gaernarfon!
pris
- £12.00
Dyddiad
- Maw 31 2023
- Expired!
Amser
- 7:30 pm