Mawr y Rhai Bychain 2024
Mae’n fraint i Mawr Y Rhai Bychain a Neuadd Ogwen wahodd artistiaid, blaenoriaid ac arweinwyr cymunedol o Genhedloedd Brodorol Canada i rannu eu cerddoriaeth a’u diwylliant gyda’n cymuned.
Diolch yn fawr i’r International Indigenous Music Summit, Canada Council for the Arts and Celfyddydau Rhyngwladol Cymru am hwyluso’r digwyddiad hwn a rhannu yn ein cariad a chefnogaeth i ddiwylliannau Brodorol.
Tocynnau penwythnos a dydd
-Hydref-
FFORDD BANGOR, BETHESDA GWYNEDD, LL57 3AN
Nos Wener
Catrin Finch Aoife Ni Bhriain (Cymru / Éire)
Nimkii and the Niniis (Anishinaabe)
19:00 – Drysau
Nos Sadwrn
Siibii (Cree)
19:00 – Drysau
Nos Wener
19:00 18 OCT
NEUADD OGWEN
Catrin Finch
Aiofe Ni Bhriain
(Cymru / Éire)
Mae Aoife Ní Bhriain, sy’n hanu o Ddulyn, yn un o ffidlwyr traddodiadol mwyaf blaenllaw Iwerddon ac yn feiolinydd clasurol o statws rhyngwladol sy’n feistrolgar ym maes cerddoriaeth glasurol a cherddoriaeth ei threftadaeth draddodiadol Wyddelig.
Ar draws Môr Iwerddon, ar arfordir gorllewinol Cymru, mae’r delynores Catrin Finch hefyd wedi llunio gyrfa glasurol drawiadol ac wedi mentro i dir cerddorol newydd, yn fwyaf nodedig trwy ei chydweithrediadau rhyngwladol gwobrwyedig.
Nimkii and the Niniis
(Anishinaabe)
Sefydlwyd Nimkii and the Niniis yn ystod y pandemig yn 2020, fel modd i gefnogi storïwyr Brodorol ac i helpu i gadw’r ieithoedd yn fyw drwy gerddoriaeth.
Mae’r band, dan arweiniad Nimkii Osawamick, yn perfformio drymio traddodiadol a chanu corawl, gan ddod â theimlad da hwnnw i’r byd.
Prynhawn Sadwrn
13:00 - 14:30 19 Hydref
NEUADD OGWEN
Cyflwyniad a phanel sgwrsio
Hanes, diwylliant a ieithoedd pobl brodorol Canada
Ymunwch â ni ar gyfer y cyflwyniad hwn a thrafodaeth agored i gael mewnwelediad a gwerthfawrogiad pellach am bobl frodorol Northern Turtle Island (Canada).
Mynediad am ddim, mwy o wybodaeth i ddod
Nos Sadwrn
19:00 19 Hydref
NEUADD OGWEN
Shauit
(Innu)
Mae Shauit, brodor o Arfordir Gogleddol Quebec, yn canu am gymhlethdod a harddwch cenedl Innu trwy asio gwerin a reggae.
Trwy yn bennaf yn iaith Innu, mae’n tynnu ar brofiadau personol. Perfformiad band llawn.
Plu
(Cymru)
Mae’r triawd o ddwy chwaer a brawd – Elan, Marged a Gwilym Rhys o Eryri, yn chwarae pop-gwerin Cymraeg amgen, gyda harmonïau 3 llais.
SiIbii
(Cree)
Mae’r artist pop frodorol, cwiar, traws o Montreal, Siibii wedi derbyn 3 miliwn+ o ffrydiau ar draws y cyfryngau cymdeithasol, ac wedi dod i fyd cerddoriaeth genedlaethol Canada gyda’u grŵp sydd â lleisiau syfrdanol, alawon pop acwstig bachog a chatalog cynyddol o ganeuon sydd wedi swyno cynulleidfaoedd.
Llety a Theithio
Neuadd Ogwen, High St, Bethesda, Bangor LL57 3AN
Tacsis
Tacsi Twix 01248 730123
Tacsi Pasty (+44) 07964 162248
Ceir A1 01248 602111
Gwersylla
Dinas Farm Site
Pen Isa’r Allt Halfway Bridge, Bangor LL57 4NB