-Pennod 1-

ARA DEG 2020

 

Perfformiadau gan
Gruff Rhys + Brìghde Chaimbeul + N’famady Kouyaté + Cerys Hafana + Rhodri Davies

ARA DEG 2020

By bron i ni gynal Ara Deg Dau Ddeg – ond pan ddaeth y gofid ail drefnwyd popeth a daeth rhai or cerddorion i Fethesda prunbynnag i gofnodi eu caneuon yn y tirlun.

Dyma fersiwn cryno, digidol o’r ŵyl na fu.

Roedd yn amhosib croesawu cynulleidfa felly yn rhyfeddol, trowyd Neuadd Ogwen yn stiwdio ffilm, dros nôs.

I gefnogi’r neuadd drwy’r cyfnodau clo, dilynwch y ddolen yma

N'famady Kouyaté

Mae N’famady yn feistr yr offeryn balafon a drymiwr traddodiadol o Guinea, Gorllewin Affrica. Darganfuwyd y balafon cyntaf gan Frenin Susu, Soumaoro Kanté (11eg ganrif, yn yr Ymerodraeth Affricanaidd Hynafol), ac fe’i rhoddwyd i’r griot Bala Fassèké Kouyaté.

Mae’r Kouyatés wedi bod yn deulu o storïwyr ers cenedlaethau. Mae N’famady yn ddisgynnydd uniongyrchol, ac yn un o sêr olyniaeth y Mandingue. Dyma N’famady ym Methesda yn cyfeilio ei hun gyda’r Balafon, y gitar a’r MacBook Pro.

Cerys Hafana

Mae Cerys Hafana yn wreiddiol o Machynlleth ac mae hi i’w gweld yma yn canu tu allan i dŷ ei Hen Nain ym Methesda.

Heb os – er y defnydd o’r delyn deires – mae recordiau Cerys Hafana yn canu cloch yn 2020. Mewn cyfnod tywyll a sobor – o fynydd Epynt i’r cymylau mae gonestrwydd syfrdanol y gerddoriaeth yn cyfathrebu yn gwbl uniongyrchol a chyfoes.

Mae’r albwm Cwmwl ar gael rwan.

GRUFF Rhys

Gwirfoddolodd Gruff fod yn destun ymarfer i griw cynhyrchu Neuadd Ogwen a’u bwriad o greu fersiwn rhithiol o Ara Deg eleni drwy fanteisio ar dirlun hynod Dyffryn Ogwen.

Dyma ddwy gan o’i albwm ddiweddara’ PANG! Un yn fyw o Afon Ogwen!

Brìghde Chaimbeul

Mae Brìghde Chaimbeul yn bibydd mentrus o’r Alban o gefndir Gaeleg. Mae hi’n gwthio ffiniau ei traddodiad drwy gynnwys elfenau Bwlgaraidd ac ymfalchio yn nghudd fannau arbrofol y nodyn craidd.

Rhyddhawyd ei LP gyntaf – The Reeling – gan Rough Trade y llynedd.

Rhodri Davies

Ar ei recordiad solo diweddaraf mae Rhodri Davies – un o delynorion mwyaf radical ein canrif, yn adfywio’r delyn rawn gynghenid a trwy fyr-fyfyriadau cyfoes yn ail gyflwyno ein clustiau i seiniau’r hen fyd.

Dyma ei ymweliad cyntaf a Bethesda a gwelwn ef yn defnyddio’r elfenau – gwynt oer Moel Faban yn benodol i chwarae’r offeryn. Gyda throed yn radicaliaeth di-gynyrch y mudiad celf Fluxus ac un arall ym mŷd Pop ei grwp Hen Ogledd, mae dylanwad Rhodri yn rhyngwladol ac aml ochrog.

Cadwch glust allan am ei label Amgen – a digwyddiadau y gymuned NAWR yn Abertawe.

Ara Deg 2020: Gruff Rhys

PANG!

Play Video
Llyn y Felin ger Dol Ddafydd & Pont Sarnau

Mae tro yn Afon Ogwen yma, efo Felin Sarnau ar y naill lan a Dol Ddafydd ar y llall,
ac mae’n llecyn poblogaidd i bysgotwyr y fro geisio bachu eog, gwyniedyn neu frithyll.

ARA DEG 2020 - Brìghde Chaimbeul

O Chiadain An Lo

Play Video
Wedi’w recordio’n fyw yn Bwlch y Benglog

Oddi yma, ym mhen uchaf Nant Ffrancon mae golygfa drawiadol o Afon Ogwen
yn nadreddu ei ffordd i lawr i gyfeiriad Bethesda.

ARA DEG 2020 - CERYS HAFANA

I bhFolach Faoin gCloch

Play Video
Wedi'w recordio'n fyw yn Neuadd Ogwen

Bu’r adeilad yn farchnad ac yn neuadd gyhoeddus, ac yma y cynhaliai’r chwarelwyr eu cyfarfodydd
yn ystod Streic Fawr y Penrhyn 1900-03.

ARA DEG 2020 - N’famady Kouyaté

Miniyamba

Play Video
Wedi’w recordio’n fyw yn Y Ffridd Fawr

Byddai trigolion yr ardal erstalwm yn gwneud defnydd helaeth o’r llwybrau drwy’r
tir agored hwn rhwng Tanysgafell ar y gwastadedd a Phen-y-ffriddoedd, Bodfeurig a Sling ar y llethrau.

ARA DEG 2020 - Rhodri Davies

Telyn Wynt

Play Video
Wedi’w recordio’n fyw ar ben Moel Faban

Credir bod y mynydd wedi ei enwi ar ôl hen bennaeth o’r enw Mabon neu Maban. Ar y mynydd mae carneddau, tai crynion a chaeau sy’n dyddio o’r Oes Efydd a’r Oes Haearn.
Wrth odre’r mynydd, uwchlaw Cilfodan, mae Pen-y-gaer, bryn-gaer Frythonaidd o’r Oes Haearn.

ARA DEG 2020 - Gruff Rhys

Niwl o Anwiredd

Play Video
Wedi'w recordio'n fyw yn Neuadd Ogwen

Llosgwyd yr adeilad i’r llawr yn 1909, ac fe’i hail-godwyd erbyn 1912.

ARA DEG 2020 - Cerys Hafana

Bwlch Llanberis / Tri a Chwech
/ Marwnad yr Heliwr

Play Video
Wedi’w recordio’n fyw yn Coed Glan-gors

Mae’r coed sy’n gorchuddio rhan fawr o lawr y dyffryn
yn rhan o hen goedwig dderw a oedd yn ymestyn yn ddi-dor o Nant Ffrancon i Aberogwen.

ARA DEG 2020 - Brìghde Chaimbeul

Highland Laddie

Play Video
Wedi’w recordio’n fyw yn y ceunant ger Ty’n y Maes

Byddai’r porthmyn yn gyrru’r gwartheg ar hyd yr hen lôn heibio’r llecyn
hwn i fyny Nant Ffrancon ar eu ffordd i’w gwerthu yn nhrefi Lloegr.

ARA DEG 2020 - Rhodri Davies

Telyn Rawn

Play Video
WEDI'W RECORDIO'N FYW YN Y FIC

Roedd bar Y Fic yn enwog yn lleol am y cyd-ganu, efo nifer o aelodau Côr Meibion y Penrhyn yn gwsmeriaid.
Arferai Caradog Prichard, y llenor a’r bardd enwog a anwyd ym Methesda, aros yn Y Fic pan fyddai’n ymweld â’i hen fro.

ARA DEG 2020 - N’famady Kouyaté

MOra Lee

Play Video
Wedi'w recordio'n fyw yn Neuadd Ogwen

Bu’n llwyfan i weithgareddau diwylliannol megis Eisteddfod Gadeiriol Dyffryn Ogwen,
nosweithiau llawen, a pherfformiadau cwmnïau drama lleol.

ARA DEG 2020 - Cerys Hafana

Bwthyn Fy Nain / Ty Bach Twt

Play Video
Wedi’w recordio’n fyw yn Bryntirion ger Pantdreiniog.

Cafodd y codiad tir hwn ei enw am ei fod yn wynebu’r gorllewin ac yn llygad yr haul,
a chodwyd tai yma ar gyfer gweithwyr Chwarel Pantdreiniog.

ARA DEG 2020 - Brìghde Chaimbeul

Turf Lodge/Aird’s Jig

Play Video
Wedi'w recordio'n fyw yn Neuadd Ogwen

Bu hefyd yn sinema ac yn neuadd fingo cyn i’r adeilad gael ei adnewyddu
a’i addasu’n neuadd gymunedol – Neuadd Ogwen – yn 1988.

ARA DEG 2020 - Rhodri Davies

Telyn Clun

Play Video
WEDI'W RECORDIO'N FYW YN NEUADD OGWEN

Cafodd yr adeilad ei droi’n ganolfan gymunedol gelfyddydol yn 2014.

ARA DEG 2020 - N’famady Kouyaté

Ndjarabi

Play Video
Wedi’w recordio’n fyw yn Nant y Garreg Goch uwchlaw Caellwyngrydd.

Chwarel nodedig am ei llechfaen coch, ac un o’r nifer o hen fân chwareli
sy’n britho llethrau’r ochr hon i’r dyffryn.

 

Yn bosibl gyda chefnogaeth gan…

Credydau

Artistiaid

Cysyniad

Crëwyd Ein Dalgylch gan Neuadd Ogwen a Steve Bliss
Cafodd Ara Deg ei greu gan Gruff Rhys a Neuadd Ogwen

Cynhyrchiad

Cwmni Cynhyrchu: OBR Studios
Cyfarwyddwr: Steve Bliss
Cynhyrchu Cynorthwyol: Neuadd Ogwen
Sain: Aled Ifan
Ffotograffiaeth: Steve Bliss
Dylunio Gwefan: OBR Studios